Mesur Diwygio Iechyd Meddwl yn symud i gyfnod pwyllgor

Mesur Diwygio Iechyd Meddwl yn symud i gyfnod pwyllgor
Yn dilyn ail ddarllediad na chafodd ei wrthwynebu yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae’r Mesur Diwygio Iechyd Meddwl wedi symud yn ei flaen i’r cyfnod pwyllgor. Bydd y pwyllgor yn archwilio pob cymal ac Atodlen y Mesur, gan gytuno neu anghytuno ar Gynnig i ‘sefyll y darn hwnnw’ o’r Mesur (h.y. ei adael i mewn neu ei ddileu). Bydd y Pwyllgor hefyd efallai yn ystyried diwygiadau i’r Mesur, ac, ynghyd â diwygiadau i gymalau ac Atodlenni presennol, gall cymalau newydd ac Atodlenni newydd gael eu hychwanegu i’r Mesur.

Hyd yma, mae nifer o ddiwygiadau wedi eu symud yn y pwyllgor. I ddarganfod rhagor ewch i:
http://www.publications.parliament.uk/pa/pabills/200607/mental_health.htm.

Beth sydd yn digwydd nesaf gyda’r Mesur?

Bydd y Mesur nawr yn mynd drwy’r camau dilynol (gydag amcan o amseroedd):

• Cyfnod Pwyllgor: Rhagfyr / Ionawr
• Cyfnod Adrodd / Trydydd Darlleniad: Ionawr / Chwefror
• Mesur Diwygiedig yn cael ei gyhoeddi yn Nhŷ’r Arglwyddi: Chwefror / Mawrth
• Ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi: Chwefror / Mawrth
• Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi: Mawrth
• Cyfnod Adrodd / Trydydd darlleniad: Mawrth / Ebrill
• Cysoni testun rhwng Tŷ’r Arglwyddi a Tŷ’r Cyffredin: Ebrill / Mai
• Cysyniad Brenhinol

…oni bai wrth gwrs ei fod yn methu a mynd ymlaen am ryw reswm.

Lle gallai ddarganfod rhagor am y Mesur?

Byddwn yn cyhoeddi diweddiadau rheolaidd ar y Mesur a’i ddatblygiad ar www.mentalhealthwales.net Am wybodaeth bellach ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ewch i: http://www.dh.gov.uk/MentalHealth

Am wybodaeth bellach ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a’r Mesur sydd yn ei ddiwygio, ynghyd â Thaflenni Briffio ar ardaloedd polisi allweddol, Nodiadau Esboniadol, Asesiad Effaith Rheoliadol, Asesiad Effaith Cydraddoldeb Hiliol, copi rhwydd ei ddarllen o’r Mesur a draft diwygiedig o’r Cod Ymddygiad ewch i : www.dh.gov.uk/MentalHealth

Os oes gyda chi ymholiadau am y Mesur, gallwch gysylltu gyda’r Tîm Mesur Iechyd Meddwl ar 020 7972 4477, neu e-bost: MentalHealthBill@dh.gsi.gov.uk