Hafal yn lansio Maniffesto 2007 yn y Cynulliad |
Mae’r elusen iechyd meddwl Cymreig Hafal wedi lansio ei Maniffesto Iechyd Meddwl ar gyfer Etholiadau Cynulliad 2007 heddiw (Mawrth 28ain) yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ymwelwyd â Bws Ymgyrch Etholiadol Hafal (uchod) a leolwyd y tu allan i’r Cynulliad gan nifer o ACau o’r holl bleidiau a ddaeth i gasglu copi o’r Maniffesto a siarad gydag Aelodau Hafal am y materion iechyd meddwl sydd yn eu hwynebu. Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Mae iechyd meddwl yn hanfodol i bawb ond ni roddir yr un pwysigrwydd iddo ag iechyd corfforol. “Bydd 1 o bob 30 ohonom yng Nghymru yn profi iechyd meddwl difrifol megis sgitsoffrenia neu afiechyd deubegwn. Mae’n amser rhoi iechyd meddwl ar yr agenda a’i wneud yn flaenoriaeth. “Drwy lansio’r maniffesto yn y Cynulliad, mae sylw’r holl ymgeiswyr a phleidiau wedi cael ei dynnu at y materion brys parthed iechyd meddwl y mae pleidleisiwyr am iddynt fynd i’r afael â hwy. “Byddwn nawr yn mynd â’r Bws Ymgyrch o gwmpas Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn.” |