Galwad i ostwng nifer y bobl gyda salwch meddwl yng ngharchardai Prydain |
Dylai poblogaeth carchardai Prydain gael ei ostwng 12,000, gan gynnwys tua 5,000 o garcharorion a ddylai fod mewn unedau iechyd meddwl, yn ôl adroddiad newydd gan sefydliad ymchwil ddylanwadol.
Awgryma’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus y gellir lleddfu rhywfaint ar y broblem gyfredol o orlenwi mewn carchardai ym Mhrydain drwy gyfeirio carcharorion gyda phroblemau iechyd meddwl i lefydd mwy priodol ble y gallant dderbyn triniaeth ar gyfer eu salwch. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai 5,000 yn fwy o garcharorion yn cael eu hanfon i ganolfannau adferiad cyffuriau ac y dylai tua 2,000 o garcharorion benywaidd sydd â dedfryd o lai na chwe mis fod wedi derbyn dedfrydau cymunedol. Byddai gweithredu’r argymhellion yn gostwng poblogaeth y carchardai 12,000 ar unwaith, meddai Nick Pearce, cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus. “Mae carchar yn ffordd ddrud ac aneffeithiol o grynhoi problemau cymdeithasol,” meddai Mr Pearce. “Pe bai mwy o driniaethau iechyd meddwl a chyffuriau yn cael eu darparu y tu allan i garchardai, gallem sefydlogi poblogaeth ein carchardai i 10% yn is na’r nifer heddiw. “Mae’r cyhoedd yn cydnabod y dylai pobl sy’n gaeth i gyffuriau ac sydd ag afiechydon meddwl fod mewn canolfannau triniaeth ac unedau iechyd meddwl arbenigol, nid mewn carchardai.” Dywed y Sefydliad y dylai Gweinidog Cyfiawnder newydd y Llywodraeth osod y broblem o ostwng poblogaeth carchardai – sydd ar gyfanswm o 80,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd- ar frig ei agenda. Dywed yr adroddiad y dylid symud arian sydd wedi’i glustnodi ar gyfer adeiladu carchardai newydd i gadw mwy o garcharorion tuag at ofal iechyd meddwl a chanolfannau triniaeth preswyl ar gyfer llwyrddibyniaeth. Dywedodd Paul Cavadino o Nacro, yr elusen lleihau trosedd: “Mae carchar yn aml yn gwaethygu problemau iechyd meddwl, yn enwedig iselder ac anhwylderau gydag elfen o iselder iddynt. “Dylid gofyn i bob awdurdod iechyd ariannu cynlluniau asesu seiciatrig mewn gorsafoedd heddlu a llysoedd, er mwyn cyfeirio troseddwyr gydag anhwylder meddwl o garchardai a thuag at ofal iechyd a chymdeithasol.” Am ragor o wybodaeth am yr adroddiad, ewch i www.ippr.org.uk |