Crynodeb Newyddion

Crynodeb Newyddion
Poblogaeth carchardai Cymru ar ei uchaf erioed

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod poblogaeth carchardai Cymru ar ei uchaf erioed ar gyfanswm o 2,718, sydd, yn ôl yr arbenigwyr, 42% yn uwch na’r uchafswm. Mae’r ffigwr newydd yn dangos cynnydd o bron 800 ers y flwyddyn 2000.

Amcangyfrifa’r ymchwilwyr bod tua 1,900 o’r carcharorion sydd yng ngharchardai Cymru ar hyn o bryd yn debygol o ddioddef un neu fwy anhwylder meddyliol, a bod 190 ohonynt yn debygol o fod ag anhwylder seicotig.

Dengys y ffigyrau diweddaraf hefyd bod y gyfradd staff i garcharorion wedi disgyn, o 13 carcharor i bob 10 aelod o staff yn 2000 i 16 carcharor i bob 10 aelod o staff heddiw. Yn yr un cyfnod, mae carchardai Cymru wedi adrodd bod y lefel trais wedi dyblu ers 2000, yn enwedig yn achos trais ymysg y carcharorion.
Am ragor o wybodaeth ar ystadegau poblogaeth carchardai, cliciwch yma.

Uned iechyd meddwl newydd ar gyfer pobl ifanc yng Nghonwy

Mae cynlluniau wedi’u datgelu ar gyfer uned iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Abergele, Conwy.
Bydd yr uned newydd yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef problemau yn amrywio o anhwylderau bwyta i broblemau hunan-niweidio.
Bydd y ganolfan, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chomisiwn Iechyd Cymru, yn cynnwys ward argyfwng pum gwely fydd ar agor saith niwrnod yr wythnos.
Gobeithir y bydd yr uned yn agor tua diwedd 2009, yn ddibynnol ar broses ymgynghori cyhoeddus 12 wythnos.
Byddai’r uned newydd yn cynyddu nifer y gwlâu ar gyfer plant a phobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru i 16.
Dywedodd Simon Dean, prif weithredwr Comisiwn Iechyd Cymru: “Bydd yn galluogi cleifion sydd angen gofal hynod arbenigol i gael eu trin a’u cefnogi cyn agosed i gartref â phosibl, yn agosach at eu teulu a’u ffrindiau.”
Bydd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 18 Mai yn Ysbyty Abergele.

Defnydd o Wrthiselyddion yn cynyddu

Mae nifer y rhagnodion ar gyfer gwrthiselyddion ar ei uchaf erioed, er gwaethaf canllawiau cenedlaethol yn hybu triniaethau amgen.

Cafodd dros 31 miliwn o ragnodion ar gyfer gwrthiselyddion megis Prozac eu hysgrifennu yn ystod 2006 – cynnydd o 6% ers y flwyddyn flaenorol.

Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Chlinigol (NICE) ganllawiau yn 2004 oedd yn argymell na ddylid defnyddio gwrthiselyddion fel y therapi gychwynnol ar gyfer iselder ysgafn neu gymedrol.

Yn hytrach, dylid cynnig arweiniad ar gyfer hunangymorth a therapïau seicolegol i gleifion yn gyntaf.

Ond dengys ffigyrau gan y Ganolfan Wybodaeth bod nifer y rhagnodion ar gyfer gwrthiselyddion yn dal i gynyddu.

Yn arbennig, cynnyddodd y rhagnodion ar gyfer grŵp o gyffuriau o’r enw SSRIs, sy’n cynnwys Prozac, 10% y flwyddyn ddiwethaf, o 14.7 miliwn i 16.2 miliwn.

Mae’r GIG wrthi’n treiglo rhaglen i gynnig mynediad i bobl i Therapi Ymddygiad Gwybyddol cyfrifiadurol ac mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu 10 cynllun peilot i archwilio ffyrdd o gyflymu’r broses o gael gafael ar therapïau siarad.

Am ragor o wybodaeth ar ragnodi cyffuriau yn y DU, cliciwch yma.