Astudiaethau Deubegwn yn awgrymu ‘dirywiad yn yr ymennydd’ |
Mae gwyddonwyr wedi canfod y gallai anhwylder deubegwn achosi i rannau penodol o’r ymennydd ddirywio’n gynt.
Mewn astudiaethau o bobl gyda’r cyflwr, defnyddiwyd sganiau MRI (delweddu cyseiniant magnetig) i ganfod dirywiad ym meinwe’r ymennydd mewn rhannau sy’n rheoli cof, adnabyddiaeth wyneb a chydsymud corfforol. Gwelodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin bod y cleifion hynny oedd â’r dirywiad meinwe mwyaf hefyd wedi profi’r nifer fwyaf o byliau o fania ac iselder yn eu bywydau. Ond, dywedodd arweinydd yr astudiaeth, Dr Andrew McIntosh, na allai’r ymchwil ddangos a oedd y dirywiad ym meinwe’r ymennydd yn achos neu’n ganlyniad yr anhwylder deubegwn. A dywedodd Dr Phillip Timms o King’s College, Llundain: “Y cwestiwn pwysig i’w ofyn yw a yw’r newidiadau yn yr ymennydd yn achosi’r anhwylder neu a yw’r anhwylder – a’i straen cysylltiol – yn achosi’r newidiadau yn yr ymennydd?” Pa bynnag ffordd y bo, dywed y tîm o Gaeredin bod yr astudiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd cadw pobl mewn gwellhad dros dro, a chael y driniaeth orau posibl iddynt. I ddarllen y rhifyn diweddaraf o Biological Psychiatry, lle mae astudiaeth McIntosh yn ymddangos, cliciwch yma. |