Mesur Iechyd Meddwl – Llywodraeth y DU yn cyfaddawdu dros werth therapiwtig triniaeth

Mesur Iechyd Meddwl – Llywodraeth y DU yn cyfaddawdu dros werth therapiwtig triniaeth
Mae trafodaeth ddeuddydd ar y Mesur Iechyd Meddwl yn Nhŷ’r Cyffredin wedi arwain y Llywodraeth i wneud cyfaddawd pwysig yn y ddeddfwriaeth arfaethedig, a hynny er mwyn sicrhau bod yn rhaid i unrhyw driniaeth orfodol gael “budd therapiwtig” clir i’r claf.

Dywedodd yr AS Llafur Cymreig, Chris Bryant, a gynigiodd y diwygiad: “Rhaid i unedau seiciatrig beidio â throi’n garchardai dan unrhyw enw arall – allwn ni ddim cadw pobl yn syml er mwyn eu cadw nhw”.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Rosie Winterton, bod sefydliadau iechyd meddwl wedi ei hannog i dderbyn y diwygiad, ac ychwanegodd ei fod yn “gyfaddawd da”.

Mae geiriad y diwygiad yn ei wneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw grybwyll o driniaeth feddygol yn y ddeddfwriaeth newydd gyfeirio “at driniaeth sydd â’r diben o leddfu neu atal gwaethygiad o’r anhwylder, ei symptomau neu ei amlygiadau.”

Mae’r diwygiad newydd yn dilyn cyhoeddiad Ms Winterton yr wythnos ddiwethaf am dri newid pellach i’r Mesur fyddai’n golygu na ddylid trin plant ar wardiau oedolion, bod yn rhaid i wasanaethau eiriolaeth (adfocatiaeth) fod ar gael i bawb sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf, ac mai dim ond er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn triniaeth i osgoi’r perygl o niwed i’w hiechyd neu eu diogelwch eu hunain, neu i warchod pobl eraill, y bydd posibl gosod amodau ar unigolyn sy’n cael triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth (SCT).

Cynigiwyd diwygiad arall yn ystod y drafodaeth ddeuddydd pan ddywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, Tim Loughton, bod y Ceidwadwyr eisiau i brawf “gwneud penderfyniadau diffygiol” gael ei roi yn y mesur, er mwyn sicrhau bod dymuniadau cleifion sy’n dal i fod â’r gallu i benderfynu ar eu triniaeth eu hunain yn cael eu parchu.

Cefnogwyd hynny gan yr AS Llafur, Lynne Jones, a’r AS Democrataidd Rhyddfrydol, Evan Harris, a ddywedodd ei fod yn galluogi pobl sydd, er eu bod yn dioddef salwch meddwl, yn rhesymol wrth benderfynu nad ydynt eisiau triniaeth feddygol.

Ond dywedodd Ms Winterton y byddai hyn yn gadael i bobl sydd â’r potensial i fod yn beryglus gael eu trin gan y system cyfiawnder troseddol, a chafodd y diwygiad ei wrthod.

Enillodd y Mesur ei drydydd darlleniad o 272 i 202 o bleidleisiau, sef mwyafrif o 70.

Bydd nawr yn dychwelyd i Dŷ’r Arglwyddi, ble mae nifer o wrthodiadau eisoes wedi cael eu gweinyddu ar y llywodraeth, i ystyried diwygiadau’r ASau.