Angen mwy o help ar gyfer mamau a darpar famau hunanddinistriol

Angen mwy o help ar gyfer mamau a darpar famau hunanddinistriol
Mae ymchwilwyr yn honni bod yna angen brys i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd a genedigaeth plentyn.

Dywedodd Iain McGowan a’r Athro Marlene Sinclair o Brifysgol Ulster mai hunanladdiad yw achos nifer fechan, ond sylweddol, o farwolaethau ymysg merched sy’n feichiog, neu o fewn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth.

Gwelodd astudiaeth ddiweddar fod 129 o ferched wedi cyflawni hunanladdiad tra roeddent yn feichiog neu yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn yn y DU rhwng 1985 a 2002.

“Mae bod yn feichiog ac yn rhiant yn cael eu hystyried yn brofiadau boddhaus a gwerthfawr yn gyffredinol”, meddai Mr McGowan, sy’n ddarlithydd nyrsio.

“Fodd bynnag, y realiti ar gyfer llawer o ferched yw y gall straen corfforol, emosiynol a chymdeithasol cael plant eu gadael yn agored i ynysiad cymdeithasol, unigedd ac, o bosibl, anobaith.

“Gall y rhain i gyd arwain at broblemau iechyd meddwl ac, mewn achosion eithriadol, ymgais bosibl i gyflawni hunanladdiad.”

Mae’r academyddion yn credu bod angen cydweithrediad rhwng ymchwilwyr rhyngwladol er mwyn canfod gwell ffyrdd o helpu bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i adnabod a thrin merched sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad neu o ddatblygu problemau iechyd meddwl.

“Mae bydwragedd yn chwarae rhan allweddol wrth ofalu am ferched,” meddai’r Athro Sinclair, sy’n arbenigwr ar Ymchwil Bydwragedd.

“Fel arfer, y fydwraig fydd prif ofalwr merched yn ystod y cyfnod yma yn eu bywyd. Mae’n hanfodol bod gan fydwragedd y wybodaeth a’r sgiliau i adnabod y merched hynny sydd mewn perygl o gael problemau iechyd meddwl.

“Mae hyn yn arbennig o wir wrth asesu pobl mewn argyfwng fel y gallant gyfeirio merched at y darparwyr gofal iechyd meddwl priodol.”

Gwelodd yr ymchwil bod pob un o’r merched a gyflawnodd hunanladdiad dros 19 oed, gyda 68% yn dioddef hunanladdiad treisgar iawn.

Roedd hanner yr achosion o hunanladdiad hyd at 1999, a 66% o 2000 wedi bod yn cael eu trin gan eu Meddyg Teulu neu eu seiciatrydd am broblemau iechyd meddwl, gyda 70% yn dioddef salwch seiciatrig posibl ar amser eu marwolaeth.

Bydd y mater yn cael ei drafod mewn cynhadledd pum niwrnod ryngwladol ar atal hunanladdiad, fydd yn cael ei chynnal yr wythnos hon yn Iwerddon.

Bydd y gynhadledd – ‘Preventing Suicide Across the Lifespan: Dreams and Realities’ – yn cynnwys cyfraniadau gan oroeswyr ymgais hunanladdiad, pobl sy’n rhoi gofal, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi a chynrychiolwyr o’r sbectrwm eang o broffesiynau gofal iechyd.

Mae materion eraill fydd yn cael eu trafod yn cynnwys yr henoed, plant a phobl ifanc a hunanladdiad efelychol.