Elusen a arweinir gan gleifion yn croesawu’r datblygiad at ddeddfwriaeth iechyd meddwl Cymreig |
Roedd Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl sy’n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol, wythnos yn croesawu’r datblygiadau a arweinir gan y Cynulliad i ddatganoli deddfwriaeth iechyd meddwl o San Steffan i Gaerdydd. Enillodd Jonathan Morgan AC bleidlais aelodau preifat i’w alluogi i wneud cais ffurfiol i drosglwyddo pwerau dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac mewn sesiwn lawn yn y Senedd heddiw bydd ACau yn trafod y cynnig i geisio Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ar gyfer iechyd meddwl. Mae disgwyl i’r cynnig gael cefnogaeth yr holl bleidiau. Dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid mai un o flaenoriaethau unrhyw ddeddfwriaeth newydd fyddai sicrhau bod gan bobl yr hawl i gael triniaeth yn gynnar yn eu salwch, pan fydd symptomau’n dod i’r amlwg gyntaf. Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Mae Hafal wedi ymgyrchu am ddeddfwriaeth iechyd meddwl ar gyfer Cymru – mae gan yr Alban ei Ddeddf Iechyd Meddwl ei hun wedi’r cyfan – ac rydym wedi gweithio i godi proffil materion iechyd meddwl yn y Cynulliad. Felly rydym yn croesawu’r cynnig hwn. “Credwn fod deddfwriaeth iechyd meddwl cyfredol y DU yn annigonol oherwydd ei fod yn anwybyddu’r hawl sylfaenol i driniaeth gynnar. “Mae’r dystiolaeth yn pwyntio’n glir tuag at ganlyniadau gwell ar gyfer unigolion, rhoi cyfle gwell ar gyfer adferiad, a gwell gwarchodaeth gyhoeddus pan all pobl ddod ymlaen yn gynnar yn eu salwch a chael diagnosis a thriniaeth.” Os bydd y Cynulliad yn penderfynu mynd ar ôl LCO, byddai cais yn cael ei wneud i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain AS, i alluogi’r Senedd i ddrafftio Mesur y Cynulliad (deddf Gymreig) ar iechyd meddwl. Yn y cyfamser, mae gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru wedi dechrau ystyried oblygiadau achos y dyn 24 oed o Drecynon, ger Aberdâr, Geraint Evans, a gafodd ei ddedfrydu ddoe i gael ei gadw am gyfnod amhenodol yn Ysbyty Arbennig Ashworth, wedi iddo gyfaddef i ddynladdiad y Tad Paul Bennett, 59 oed. Ers iddo gael ei arestio ym mis Mawrth, mae Mr Evans wedi cael diagnosis o afiechyd meddwl difrifol. |