Hafal yn dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y Senedd

Hafal yn dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y Senedd

Mi wnaeth Hafal, yr elusen Cymraeg amlycaf i bobl gyda salwch meddwl llym a’i gofalwyr – dathlu 15fed Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd blynyddol ar y 10 Hydref yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lle oedd dau o gyhoeddiadau newydd yr elusen wedi’i lansio gan Weinidog Gwasanaethau Iechyd a Gofal Edwina Hart a Gweinidog yr Wrthblaid, Jonathon Morgan.

Roedd y Prif Weinidog Rhodri Morgan hefyd wedi siarad yn arddangosiad Hafal yn y galeri Oriel, gyda Ted Unsworth, Cadeirydd Adolygiad y Llywodraeth Cynulliad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Diogel.

Lansiwyd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym 1992 gan Ffederasiwn y Byd am Iechyd Meddwl, ac mae cannoedd o ddigwyddiadau’n cael ei gynnal yn flynyddol ar draws y byd i godi ymwybyddiaeth o’r heriau a chyflawniadau o bobl gydag afiechydion meddwl.

Mae’r diwrnod yn cyflwyno cyfle gwerthfawr i gyfundrefnau gwirfoddol megis Hafal i dynnu rhagor o sylw i faterion iechyd meddwl; cyfle a gymerodd yr elusen trwy lawnsio ei dau gyhoeddiad newydd a arweiniwyd gan ei gleifion. Ei theitlau oedd:

‘Triniaeth Afiechyd Meddwl Difrifol – Canllaw Ymarferol’ a ‘Lleihau Risg, Cyflawni Adferiad – Cynllun Gweithredu i Bobl gydag Afiechyd Meddwl Difrifol sydd yn dod i mewn i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol.’

Dywedodd Bill Walden-Jones: “Rydyn ni’n falch i lawnsio’r cyhoeddiadau arloesol newydd yma wrth Hafal ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y Senedd.

Mae troseddwyr ag anhwylder meddwl ymysg y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ac mae ein cynllun gweithrediad newydd yn cynnwys ffyrdd arloesol o weithio i wella’r siawns o fywyd i bobl gydag afiechyd meddwl llym sydd yn dod i mewn i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol.

“Roedd ein canllaw newydd am driniaethau afiechydon meddwl llym wedi ei ysgrifennu mewn adnabyddiaeth o’r angen am ddynesiad cytbwys i driniaeth, gan gyfuno gwybodaeth ar feddyginiaethau gyda golwg at wahanol fathau o therapïau siarad sydd yn gallu fod o gymorth mawr ac i bwy rydyn ni’n credu dylai fod mwy o fynediad.”

Roedd defnyddwyr gwasanaeth Hafal a staff wedi ei ymuno gan nifer o ymwelwyr chwilfrydig yn y digwyddiad, roedd hefyd yn cynnwys stondinau wrth gyfundrefnau eraill megis y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Meddwl a Gofal Cymru, a rhoddwyd areithiau gan y Gweinidog Iechyd a Gweinidog yr is blaid, Ted Unsworth, Nerys Evans AM ac eraill.

Yn ei araith, roedd y Gweinidog Iechyd wedi cymeradwyo gwaith Hafal a dywedodd mai creu bywyd gwell i bobl gydag afiechydon meddwl llym yng Nghymru oedd un o’i brif flaenoriaethau.

Siaradodd Jonathon Morgan AM am ei chefnogaeth am y datganoliad o ddeddfwriaeth iechyd meddwl i Gynulliad Cymru.

Croesawodd Ted Unsworth canllaw gweithrediad newydd Hafal ar droseddwyr ag anhwylder meddwl.