Treialon cyffuriau sgitsoffrenia newydd yn ‘addawol’

Treialon cyffuriau sgitsoffrenia newydd yn ‘addawol’
Mae treialon dynol cyntaf ar fath newydd o gyffur sgitsoffrenia wedi dangos canlyniadau addawol iawn, yn ôl yr ymchwilwyr.

Dangosodd y cleifion a gafodd eu trin â’r cyffur welliannau sylweddol o ran symptomau, gan adrodd am lai o sgil effeithiau nag yr oeddynt yn eu cael gyda meddyginiaethau gwrth-seicotig eraill.

Ar hyn o bryd, adnabyddir y cyffur yn ô lei enw cod yn unig – LY2140023 – a dyma’r dosbarth newydd cyntaf o feddyginiaeth sgitsoffrenia i gael ei ddatblygu ers deng mlynedd.

Yn wahanol i gyffuriau gwrth-seicotig cyfredol, sy’n rhwystro’r corff rhag derbyn y cemegyn dopamine, a gaiff ei gynhyrchu’n naturiol, mae LY2140023 yn gweithredu ar niwrodrosglwyddydd gwahanol, a elwir yn glwtamad.

Mewn prawf clinigol dall dwbl, rhoddodd y tîm, dan arweiniad Dr Sandeep Patel, y cyffur i 97 o gleifion, gyda grwpiau llai yn cael naill ai olanzipine – cyffur gwrth-seicotig cyffredin sy’n targedu’r dopamine – neu blasebo.

Profodd LY2140023 i fod yr un mor effeithiol ag olanzipine ar gyfer symptomau ‘cadarnhaol’ sgitsoffrenia, fel rhithwelediadau, a’r symptomau ‘negyddol’, gan gynnwys diffyg diddordeb mewn bywyd a chilio o gyswllt ag eraill.

Gwelodd y cleifion a gymerodd y cyffur newydd hefyd nad oeddynt yn profi unrhyw un o’r sgil effeithiau yr oeddynt yn eu cysylltu â chyffuriau sy’n targedu’r dopamine, fel rhoi pwysau ymlaen, cynnydd yng nghelloedd braster y gwaed, a elwir yn triglyserid, periodonteg a llid y deintgig.

Rhybuddiodd yr ymchwilwyr mai astudiaeth ‘prawf o gysyniad’ yn unig oedd hyn, i weld a oedd unrhyw siawns y gallai’r cyffur helpu i drin sgitsoffrenia, a bod angen mwy o dreialon i brofi LY2140023 yn erbyn cyffuriau eraill, a thros gyfnodau hirach.

Dywedodd Alun Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr Hafal, y brif elusen yng Nghymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr: “Mae Hafal yn credu bod angen i’r diwydiant fferyllol barhau i weithio i ddatblygu triniaethau newydd sy’n fwy effeithiol, ac yn achosi llai o sgil effeithiau, ac rydym yn croesawu unrhyw ymchwil a allai arwain at well triniaeth ar gyfer y bobl sydd ei angen.”