Comisiynydd Plant yn galw am ymchwiliad i’r hunanladdiadau Pen-y-bont ar Ogwr

Comisiynydd Plant yn galw am ymchwiliad i’r hunanladdiadau Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r Comisiynwyd Plant gweithredol i Gymru yn gofyn am ymchwiliad i mewn i’r llifeiriant o hunanladdiadau gan bobl ifanc yn, ac o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru.

Mae’r Crwner y Sir, Phillip Walters wedi cadarnhau bod cyfanswm o13 o bobl ifanc o dan 26 mlwydd oed wedi cymryd eu bywydau eu hun yn yr ardal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, y mwyaf diweddar yw merch 17 mlwydd oed o Flaengarw a chrogodd ei hun.

Dywedodd Maria Battle, y Comisiynydd Plant Gweithredol: “Mae’n drasiedi i hyn ddigwydd mewn ardal mor fach, ac rydym am weld ymchwiliad llawn i mewn i faterion megis ariannu – mae iechyd meddyliol plant o hyd yn wasanaeth Cinderella yng Nghymru”.

Mae grŵp, gan gynnwys yr heddlu, ysgolion a gweithwyr iechyd, ynghyd gyda’r AS lleol Madeleine Moon wedi cwrdd i drafod y llifeiriant o hunanladdiadau.

Dywedodd Janet Roberts o’r Llinell Cyngor Cymuned a Gwrando (Community Advice and Listening Line (CALL)): “Bydd yr achosion diweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi gadael teulu a ffrindiau yn drallodus, a rhieni eraill yn poeni – os oes angen siarad arnoch neu wybodaeth neu daflenni, plîs ffoniwch y llinell gymorth.

“Mae’r achosion trist yma wedi derbyn adroddiadau eang; fe all godi materion i nifer o rieni sy’n poeni bod eu plentyn yn hunanddinistriol yn ogystal ar sawl sydd wedi colli plentyn drwy hunanladdiad. Bydd atgofion poenus yn dod yn ôl gyda’r adroddiadau yma. Fe all hi fod o gymorth i drafod gyda rhywun sy’n deall ond sydd ddim yn ymglymedig yn emosiynol. Mi fydden i yn annog unrhyw un sy’n poeni am berson ifanc i ffonio neu ddanfon neges destun i’r llinell gymorth neu edrych am wybodaeth ar ein gwefan.”

Mae CALL yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru i ddarparu clust i wrando, gwybodaeth ar wasanaethau statudol a gwirfoddol ynghyd a llên hunan gymorth i unrhyw un yng Nghymru sy’n teimlo y byddent yn buddio o siarad drwy eu teimladau ac emosiynau mewn hyder.

* Mae’r llinell gymorth CALL yn rhad ac am ddim, deialwch 0800 132 737. Fe allwch hefyd ddefnyddio eich ffôn symudol i ddanfon neges destun gyda’r gair ‘help’ a’ch cwestiwn i 81066. Oriau agor yw Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 10yb-2yp, penwythnosau 12 ganol dydd – ganol nos. I fynd i wefan CALL, cliciwch yma.