Cyfradd hunanladdiad ar gyfer dynion yng Nghymru ‘yr uchaf ymysg pedair cenedl y DU’ – Hart i roi brys i strategaeth ataliol

Cyfradd hunanladdiad ar gyfer dynion yng Nghymru ‘yr uchaf ymysg pedair cenedl y DU’ – Hart i roi brys i strategaeth ataliol

Mae adroddiad newydd gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru wedi datgelu bod y gyfradd hunanladdiad ymysg dynion Cymru yr uchaf o’r bedair wlad yn y DU.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart AC y byddai’r broses o gynhyrchu strategaeth ataliol ar gyfer hunanladdiad ledled Cymru yn cael ei ‘chyflymu’.

Daw’r ffigyrau newdd am gyfraddau hunanladdiad dynion yng Nghymru o ddogfen briffio a baratowyd y mis diwethaf ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, ble y nododd yr awdur:

“Ar hyn o bryd, mae’r gyfradd hunanladdiad ymysg dynion yng Nghymru yr uchaf yn y DU. Dylid nodi bod y gyfradd ymysg dynion mewn dadansdoddiadau blaenorol (2002-04) wedi dangos cyfraddau uwch yn yr Alban na Chymru. Mae’r cyfraddau yn yr Alban wedi gostwng, ond wedi aros tua’r un fath yng Nghymru.”

Yr haf diwethaf, siaradodd Crwner Bro Morgannwg, Philip Walters, am ei “bryder dybryd ynghylch nifer y dynion ifanc sy’n cyflawni hunanladdiad yn y Cymoedd.”

Dros gyfnod o 11 mis yn ystod 2006, dywedodd iddo ddelio â bron un achos yr wythnos, gyda’r nifer helaethaf ohonynt yn ddynion dan 30 oed.

Mewn llythyr at bob AC, dywedodd Edwina Hart: “Mae’r nifer o farwolaethau trist diweddar ymysg pobl ifanc yn Ne Cymru, o ganlyniad i hunanladdiad, wedi tynnu sylw at yr angen i ni ddod â’r nifer sylweddol o bolisïau a mentrau atal hunanladdiad at ei gilydd i greu un cynllyn gweithredu.

“Rwyf yn gobeithio’n fawr y gallwn ddod at ein gilydd i gefnogi’r gwaith ar y cynllun gweithredu, a all gychwyn ar unwaith, adeiladu ar bolisïau presennol a chynnig cefnogaeth i’r cyhoedd a’r darparwyd lleol yn y sectorau statudol a gwirfoddol.”

Rhestrodd Mrs Hart y naw elfen y byddai’n bwriadu eu cynnwys yn ei chynllun gweithredu:

• Targed gwella iechyd er mwyn lleihau nifer yr hunanladdiadau ym mhob oedran oleiaf 10% erbyn 2012
• Dogfen atal hunanladdiad wedi’i chynhyrchu gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
• Cynllun gweithredu ar gyfer hybu iechyd meddwl
• Atal hunanladdiad i gael ei wneud yn flaenoriaeth dan Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Iechyd Meddwl 2005
• Strategaeth genedlaethol ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion
• Datblygu rhwydwaith ledled Cymru o gynlluniau ‘ysgol iach’
• Canllawiau newydd i ysgolion ac awdurdodau lleol ar iechyd a lles emosiynol disgyblion.
• Ymgyrchoedd hysbysebu newydd i hybu’r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (CALL)

* Caiff CALL ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i redeg gan Ymddiriredolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru i gynnig clust i wrando, gwybodaeth am wasanaethau, yn ogystal â deunydd darllen hunan-gymorth am ddim i unrhyw un yng Nghymru sy’n teimlo y byddent yn elwa o siarad yn gyfrinachol am eu teimladau a’u hemosiynnau.
Mae’n llinell gymorth am ddim, felly dim ond deialu 0800 132 737 sydd rhaid. Gallwch hefyd ddefnyddio eich ffôn symudol i decstio’r gair ‘help’ ac yna eich cwestiwn i 81066. Oriau agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am-2pm, penwythnosau 12 canol dydd – 12 ganol nos.

I fynd at wefan CALL, cliciwch yma.