Y Cynulliad yn cytuno’n unfrydol ar ddeddfwriaeth newydd ar gyfer gofalwyr Cymru

Y Cynulliad yn cytuno’n unfrydol ar ddeddfwriaeth newydd ar gyfer gofalwyr Cymru
Gallai deddfwriaeth Gymreig newydd i sicrhau hawliau i ofalwyr gael gwybodaeth a chymorth fod ar y ffordd wedi i Aelodau’r Cynulliad bleidleisio’n unfrydol o blaid Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, a ddrafftiwyd gan Helen Mary Jones.

Mae gofyn i’r Gorchymyn nawr symud drwy nifer o gamau deddfwriaethol, a ddylai arwain at Fesur y Cynulliad (neu ddeddfwriaeth Gymreig) sydd â’r bwriad o wella bywydau gofalwyr yng Nghymru.

Dywedodd Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd: “Rwyf yn hynod o falch ac wedi fy mhlesio bod y Cynulliad wedi rhoi ei gefnogaeth yn llawn i’r Gorchymyn a gynigiais.

“Gyda’r gorchymyn hwn, rwyf yn gobeithio gwneud bywyd ryw ychydig yn haws i ofalwyr, gan gymryd baich oddi arnynt hwy a’i basio ymlaen at gyrff statudol.”

“Dan y system bresennol, mae nifer o ofalwyr yn parhau i fod yn ynysig a heb gefnogaeth, gyda miloedd yn byw mewn tlodi am na allant fynd i wneud gwaith cyflogedig.

“Byddai’r gorchymyn hwn yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd i adnabod gofalwyr a rhoi gwybod iddynt am eu hawliau a’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael iddynt, er mwyn gwella eu bywydau.

“Ers sefydlu’r Cynulliad, mae consensws cryf wedi bodoli ar draws y pleidiau am bwysigrwydd gofalwyr a’u hawliau.

“Rydym wedi cael datblygiadau amlwg, ond mae llawer o ffordd yn dal i fynd. Credaf mai’r Gorchymyn hwn yw’r cam nesaf ar hyd y ffordd honno.”

Bob blwyddyn, bydd tua 120,000 o bobl yng Nghymru yn dod yn ofalwyr, ond dengys ymchwil nad yw 65% o’r rheiny yn cydnabod eu hunain fel gofalwyr yn eu blwyddyn gyntaf o ofalu. Mae diffyg gwybodaeth yn golygu bod gofalwyr yn ymdrechu i gael gafael yr help a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

* Am ragor o wybodaeth am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gynigir, cliciwch yma.