Croesawu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd – ond gydag amheuon |
Mae elusennau iechyd meddwl wedi croesawu gweithrediad y Ddeddf Gwahaniaeth ar Sail Anabledd y mis hwn, ond wedi beirniadu’r Llywodraeth am fethu cyfle i ymestyn diogelwch cyflogaeth i bobl sydd wedi profi iselder ysbryd.
Gwrthododd Tŷ’r Cyffredin ddiwygiad a wnaed gan Arglwydd Skelmersdale,, ac a basiwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi, fyddai wedi golygu y dylai unrhyw un sydd wedi profi iselder o fewn y bum mlynedd ddiwethaf – i’r raddfa ei fod wedi cael effaith ddrwg sylweddol ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol dydd i ddydd am gyfnod o chwe mis neu fwy – gael eu trin fel petai’r effaith hon yn debygol o ddod yn ôl, hyd yn oed os nad ydynt yn dioddef o iselder ar hyn o bryd. Dywedodd Gil Hitchon, Prif Weithredwr Maca: “Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd newydd yn rhoi llawer mwy o ddiogelwch i amrediad eang o bobl gydag anableddau, ac rydym yn falch o’i weld yn dod yn gyfraith. Ond mae penderfyniad y Llywodraeth i wrthod diwygiad yr Arglwyddi ar iselder yn siomedig iawn. Mae pobl sydd wedi profi iselder yn aml yn wynebu stigma a gwahaniaethu yn y gweithle, ond nawr bydd ganddynt lai o amddiffyniad na phobl gydag anableddau eraill.” Nododd Jason Tynan, Cydlynydd Dychwelyd i Weithio Hafal: “Mae croeso mawr i’r ddeddfwriaeth newydd ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl, er bod pobl sydd wedi profi iselder wedi cael eu siomi gan y diwygiad a gafodd ei wrthod. “Mae’n bwysig bod pobl gydag unrhyw fath o salwch neu anabledd yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith a bod gennym gydraddoldeb yn y gweithle. Ond mae angen i ni hefyd newid agweddau cyffredinol cyflogwyr tuag at afiechyd meddwl. Mae ystadegau’n dangos bod cyflogwyr yn llawer llai parod i gyflogi person gydag afiechyd meddwl na pherson gydag anabledd corfforol.” Am fwy o wybodaeth ar y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, ewch i: www.dwp.gov.uk/employers |