Rhaglen deledu’n tynnu sylw at drin seicosis heb feddyginiaeth

Rhaglen deledu’n tynnu sylw at drin seicosis heb feddyginiaeth
Agwedd ddadleuol tuag at drin seicosis heb ddefnyddio meddyginiaeth oedd yn cael y sylw drama ddogfen a ddarlledwyd ar Sianel 4 yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â’r seicolegydd o Brydain, Dr Rufus May.

Roedd ‘The Doctor Who Hears Voices’, a ddarlledwyd ddydd Llun, Ebrill 21, yn ddramodiad o stori wir meddyg ifanc sy’n gweithio mewn ysbyty yn Llundain a brofodd deimladau hunanddinistriol ar ôl iddi ddechrau clywed lleisiau.

Cafodd ei rhoi ar gwrs o feddyginiaeth gwrth seicotig i gychwyn, ond yna aeth y claf i gael cyngor Dr May, a gafodd ddiagnosis o sgitsoffrenia ei hun pan oedd yn 18 oed.

Roedd y ffilm yn dilyn Ruth – dim ei henw go iawn – dros y 18 mis nesaf wrth iddi gael ei thrin gan Dr May, sy’n cefnogi ei phenderfyniad i beidio â chymryd ei meddyginiaeth ac yn ei chael i ddilyn amrywiaeth o strategaethau therapiwtig.

Mae dull Dr May, sy’n cynnwys cysylltu â’r lleisiau ym mhen Ruth, yn mynd yn groes i’r categorïau confensiynol o salwch meddwl ac iechyd meddwl.

Ar ddiwedd y ffilm, gwelwn Ruth yn dychwelyd i weithio yn yr ysbyty a chawn wybod yn yr ôl-nodyn bod y ferch y seiliwyd cymeriad Ruth arni yn gwneud yn dda ac yn dal i weithio heddiw.

Esboniodd Dr May, sy’n aml yn cael ei alw’n rebel o seicolegydd, “Mae yna ysgol gyfan o seicolegol anghonfensiynol yr ydw i’n perthyn iddi, sef y mudiad Clywed Lleisiau rhyngwladol (international Hearing Voices movement), sy’n cynnwys pobl sy’n clywed lleisiau, therapyddion ac academyddion, i gyd ar lefel gyfartal.

“Rydym yn gwrthod rhoi label ‘sgitsoffrenia’ ar bobl pan fyddant yn clywed lleisiau, gan edrych yn hytrach ar y lleisiau fel negeswyr sy’n cynrychioli bywyd pobl.

“Rydym yn rhwydwaith cyfrin o bobl sy’n credu y dylem wrando ar y lleisiau. Mae’r ffilm yn cyflwyno’r mudiad hwn i gynulleidfa newydd sbon.”

Sylw Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl, Hafal, oedd: “Mae’r rhaglen yn trafod materion pwysig iawn sy’n ymwneud â salwch meddwl, ac yn eu cyflwyno i gynulleidfa prif ffrwd, ac mae’n rhaid croesawu hynny.

“Byddai’n ein poeni ni, fodd bynnag, pe bai pobl yn dod i’r casgliad nad oes gan feddyginiaeth unrhyw le wrth leddfu symptomau seicosis, gan ein bod yn gwybod y gall meddyginiaeth helpu pobl i reoli eu salwch.

“Ond rydym mor awyddus ac unrhyw un arall bod dulliau newydd o drin salwch meddwl difrifol yn ystyried y person cyfan, ac nad yw meddyginiaeth yn cael ei ystyried fel yr unig ffactor berthnasol wrth wella o salwch meddwl.”