Adroddiad yn awgrymu y ceir lefelau “amrywiol” o gyllid ar gyfer iechyd meddwl mewn carchardai yn Lloegr
Cyhoeddwyd astudiaeth i’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd meddwl yn Lloegr yr wythnos hon gan y Sainsbury Centre for Mental Health ar y cyd â Phrifysgol Lincoln.
Mae awduron “Short-changed – spending on prison mental health care” yn tynnu sylw at “amrywiaethau rhanbarthol sylweddol” mewn gwariant ar ofal iechyd meddwl y carcharor, yn amrywio o gyn lleied â £182 yn Nwyrain Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr i £416 yn Llundain.
“Mae’n anodd osgoi dod i’r casgliad fod safonau gofal iechyd meddwl mewn carchardai yn amrywio’n sylweddol yn ddibynnol ar y lleoliad,” yw casgliad yr adroddiad.
Mae nifer o Gymry wedi eu carcharu ar yr ochr draw i’r ffin; yn wir, nid oes carchar i fenywod yng Nghymru.
Canfu ymchwilwyr fod tua 4,700 o garcharwyr mewn carchardai yn Lloegr wedi derbyn cefnogaeth gan dimau iechyd meddwl mewngymorth – llawer llai na’r un ym mhob 12 o’r boblogaeth carchardai o 80,000 oedd angen gwasanaethau o’r fath.
I ddarllen neu lawrlwytho’r adroddiad llawn, cliciwch yma.
Astudiaeth yn edrych ymlaen tuag at yr 20 mlynedd nesaf o wariant iechyd meddwl yn Lloegr
Cyhoeddir astudiaeth newydd o bwys gan y King’s Fund ar y gost o ateb anghenion iechyd meddwl yn Lloegr yn ystod y ddwy ddegawd nesaf yr wythnos hon.
Mae “Paying the Price” yn rhagweld y bydd lefelau o’r mwyafrif o afiechydon meddyliol, gan gynnwys sgitsoffrenia, yn aros yn sefydlog, ond y bydd “cynnydd enfawr” mewn achosion o ddementia gan arwain at gynnydd yn y bil ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn Lloegr o £22.5 biliwn yn 2007 i £47 biliwn yn 2026.
Meddai Niall Dickson, Prif Weithredwr King’s Fund: “Mae’r ffaith ein bod yn byw’n hirach yn fater i’w ddathlu, ond golyga y bydd yn rhaid i’r systemau gofal iechyd a chymdeithasol ymdopi â chynnydd dramatig yn y nifer o bobl sy’n dioddef o ddementia. Oni bai y ceir llwyddiant arbennig yn yr ymgyrch am gyffuriau i atal datblygiad y salwch hwn, bydd angen mawr am ofal a chefnogaeth ychwanegol, gyda rhywfaint ohono yn go ddwys.”
I ddarllen neu lawrlwytho’r adroddiad llawn, cliciwch yma.