Cwest yn dod o hyd i ddiffygion difrifol mew nachos o farwolaeth mewn Uned Seiciatrig Gymreig |
Mae’r Crwner a fu’n barnu mewn achos i farwolaeth claf iechyd meddwl, Darren Tannahill, a fu farw ar ôl cael ei dderbyn i uned seiciatryddol, wedi dweud bod diffigion difrifol yn yr achos.
Clywodd y cwest bod Mr Tannahill, 26, o Abergwaun, wedi marw yn Ysbyty Ty Ddewi, Caerfyrddin ym mis Mai 1999. Roedd Mr Tannahill wedi profi seicosis yn ystod y misoedd a arweinodd I’w farwolaeth ac ar y 12ed of fis Mai cafodd ei anfon i ysbyty’r meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty cafodd Mr Tannahill ei chwistrellu gan y cyffuriau Droperidol a Lorazepam. Clywodd yr ymchwiliad ei fod ef wedi ei wylio yn agos gan staff nyrsio wrth ei wely am yr awr gyntaf, ond wedi hynny gwyliwyd arno o swyddfa ar draws goridor o’i stafell. Yn hwyrach sylwodd staff bod poer yn dod o geg y claf a fe ddangosodd archwyliad pellach bod ei wefusau yn las a’i guriad calon yn wan. Ceisiwyd adfer Mr Tannahill on cyn hanner nôs ardystiwyd ef yn farw. Dywedodd yr Athro Kevin Gournay, arbenigwr nyrsio seiciatryddol yng Ngholeg y Brenin, Llundain, nad oedd ‘na gynllun ysgrifenedig i gadw llygaid ar Mr Tannahill a dim proses I gofnodi unrhyw wyliadwriaeth a nodwyd. Dywedodd nad oeed ynrhyw brawf of wyliadwriaeth areferiol o byls ac anhadliad ac yn sicr dim enghraifft confodol o’r math wyliadwriaeth. Dywedodd yr Athro Gournay y dylai gleifion sy’n profi seicosis gael ei pyls, tymheredd ac anhadliad eu gwirio pob 15 munud, ac yn ychwanegol i gymryd ‘golwg agosach’ ar y claf yn ystod y 15 munud hynny. Ychwanegodd bod y methiant i gofnodi yng roes i bob egwyddor nyrsio ac mae bron yn dimrymu yr holl bwrpas a’r ymarferiad. Dywedodd crwner Sir Gaerfyrddin, John Owen ei fod “yn derbyn beirniadaeth yr Athro Gournay bod diffygion helaeth yng ngofal Mr Tannahill.” Ond wrth iddo gofnodi rheithfarn agored, nid oeed Mr Owen yn medru dod o hyd i gadwyn achlysurol rhwng y ddifygion a marwolaeth Mr Tannahill. Dywedodd hefyd nad oedd digon o dystiolaeth I brofi bod y feddyginiaeth a roddwyd i’r claf yn gyfrifol am ei farwolaeth. Dywedodd siaradwr dros Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda – sef olynydd Ymddiriedolaeth GIG Penfro a Derwen, “Mae’n bwysig cofio bod hyn wedi digwydd naw mlynedd yn ôl. Ers hynny mae nifer o newidiadau cenedlaethol i ganllawiau cyhoeddi, ymarfer a’r defnydd o gyffuriau wedi cymryd lle. “Mae rhain wedi eu gweithredu tu fewn i’r Ymddiriedolaeth, ac hefyd mewn Ymddiriedolaethau cenedlaethol, ac main yn cynnwys llonyddu buan, dadebru, ymarfer a gwyliadwriaeth, a thynnu nol y cyffur Droperidol a mabwysiadu system o gofnodi electronig. “Rhydym yn deal bod hyn yn amser annodd i deulu Darren a gobeithiwn yn ddiffuant bod hyn yn mynd i ddod a rhyw gysurdeb iddynt.” I ddarllen y stori at wefan y BBC, cliciwch yma. |