Elusen iechyd meddwl Cymru yn derbyn hwb ariannu sylweddol
Mae’r elusen iechyd meddwl Hafal wedi eu gwobrwyo â grant gan Gronfa Fawr y Loteri sy’n gyfanswm o dros £1,500,000 i gefnogi gwasanaethau sy’n cael eu ffocysu ar adferiad arloesol i bobl gyda salwch meddwl ddifrifol ar draws Cymru.
Mae hafal yn un o bron i 19 o sefydliadau i dderbyn grantiau sylweddol gan Gronfa Fawr y Loteri o dan eu rhaglen Mae Iechyd Meddwl o Ddifrif, sydd wedi gwneud cyfanswm o £13,608,286 ar gael i brosiectau Cymreig sy’n gweithio i wella deilliant pobl gyda salwch meddwl.
Bydd y grant sydd wedi ei wobrwyo i Hafal yn cael ei ddefnyddio mewn dwy ffordd:
• i gefnogi a chynorthwyo pobl gyda salwch meddwl difrifol i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag dychwelyd i’r gwaith neu gyflawni eu nodau galwedigaethol
a
• i weithio mewn partneriaeth gyda’r pedwar Ardal Prawf yng Nghymru i gefnogi troseddwyr gydag anghenion iechyd meddwl difrifol, gan ddarparu cyswllt rhwng yr unigolion bregus yma a gwasanaethau statudol hanfodol neu wasanaethau gwirfoddol sy’n medru mynd i’r afael a’u hanghenion.
Bydd ariannu Mae Iechyd Meddwl o Ddifrif Hafal yn galluogi i’r elusen i ymestyn ym mhellach i’r unigolion sy’n eithriedig yn gymdeithasol sy’n profi salwch meddwl difrifol a’u darparu gyda llwybrau newydd i wellhad.
Rhestr o’r holl sefydliadau sydd wedi derbyn ariannu gan raglen Gronfa Fawr y Loteri Mae Iechyd Meddwl o Ddifrif.
Hafal, £1,528,806
NCH Gwent, £1,000,000
Ymddiriedolaeth GIG Abertawe Bro Morgannwg, £999,000
Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech, £995,567
Mind Cymru, £987,955
Y Cyngor Mwslimaidd i Gymru, £942,299
Sefydliad Iechyd Meddwl, £816,146
Y Gymdeithas Anhwylder Bwyta, £789,215
Prifysgol Caerdydd, £770,862
Cynghrair Iechyd Meddwl Powys, £751,711
Helpu Grwpiau i Dyfu, £679,461
Mind Aberconwy, £596,756
MDF Y Sefydliad Deubegwn, £559,404
Gofal Cymru, £544,093
Canolfan Gynghori Aberystwyth a’r Cylch, £517,958
Mind ym Mro Morgannwg, £495,739
NCH Caerffili, £316,900
Solas Cymru, £316,514