Seminar wanwyn Hafal yn hybu adferiad

Seminar wanwyn Hafal yn hybu adferiad
Mae Hafal, y brif elusen yng Nghymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr, yr wythnos yma yn cynnal cynhadledd yng Ngogledd Cymru dan y teitl “Beth mae Defnyddwyr ei Eisiau – seminar i hybu dyheadau ar gyfer gwellhad pobl gydag afiechyd meddwl difrifol”.

Bydd “Beth mae Defnyddwyr Ei Eisiau” yn dod â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr gweithgar a gwybodus ynghyd â gwneuthurwyr polisi, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn archwilio sut y gallwn, gyda’n gilydd, wneud i’r fframwaith cyfredol o bolisi ac arfer weithio er lles y defnyddiwr unigol.

Nid beirniadu gwasanaethau cyfredol yw nod y diwrnod, ond yn hytrach profi a oes rhyw fath o gytundeb barn rhwng defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl a’r bobl hynny sy’n gyfrifol am eu darparu.

Bydd y trafodaethau yn y Seminar yn seiliedig ar y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, a gaiff ei gefnogi’n eang. Byddwn hefyd yn gallu cysylltu â pholisi sydd wrthi’n cael ei ddatblygu ar gyfer iechyd meddwl yn dilyn Adolygiad diweddar Burrows-Greenwell o Wasanaethau Iechyd Meddwl a’r Adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Diogel.

Yn dilyn y Seminar, bydd Hafal yn cyhoeddi adroddiad yn nodi awgrymiadau ymarferol ar gyfer comisiynwyr a darparwyr, er mwyn helpu teilwra gwasanaethau i anghenion a dymuniadau defnyddwyr.

Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Fel elusen sy’n cael ei arwain gan y bobl sy’n defnyddio ei wasanaethau, mae Hafal wedi ymrwymo i roi cefnogaeth i bobl gydag afiechyd meddwl difrifol i leisio eu barn, yn y gred bod y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau yn arbenigwyr drwy brofiad, gyda chyfraniad gwerthfawr i’w wneud wrth gynllunio triniaeth a gofal.

“Mae’r seminar hon yn ddigwyddiad arloesol, fydd yn dod â safbwyntiau’r defnyddwyr gwasanaethau ynghyd â barn uwch weithwyr proffesiynol ar hyd amrediad o sefydliadau, sydd i gyd â rhan i’w chwarae ym maes iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym yn disgwyl trafodaeth gynhyrchiol, fydd yn arwain at agweddau a syniadau newydd, fydd yna’n cael eu cyhoeddi gennym yn fuan.”

Bydd y prif gyfranwyr yn cynnwys:

• Arglwydd Ellis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
• Suzanne Vogel-Scibilia, MD, Athro Seiciatreg Cysylltiol, yn y gorffennol agos, Llywydd y National Alliance on Mental Illness (NAMI) yn yr Unol Daleithiau, ac sydd wedi dioddef o anhwylder deubegwn ers iddi fod yn bymtheg oed
• Stewart Greenwell, Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol a Tai, CBS Torfaen, Cyd-Gadeirydd yr Adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl diweddar
• Phil Chick, Cyfarwyddwr, Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cynulliad Cymru
• Carl Hooper, Seicotherapydd a Seiciatrydd Ymgynghorol
• Giles Harbone, Seiciatrydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru
• Ron Woodall, Cadeirydd, Fforwm Defnyddwyr Iechyd Meddwl (Gogledd Orllewin Cymru)
• Suzanne Duval, Cyfarwyddwr, Awetu, Grŵp Iechyd Meddwl Du a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, a defnyddiwr gwasanaethau iechyd meddwl
• Sandra Loxton, Arweinydd ARhG Gogledd Cymru
• Mark Boulter, Ymarferydd Cyffredinol ac aelod o Grŵp Cynghori Gweithrediad FfGC Llywodraeth y Cynulliad.

* Bydd cynhadledd “Beth mae Defnyddwyr ei Eisiau” yn cael ei gynnal yn Glasdir, Canolfan Ddatblygu Gwledig Conwy, Llanrwst, ar dydd Iau, 15 Mai.