Uned iechyd meddwl newydd i bobl ifanc yn cael cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi ei gymeradwyaeth i gynlluniau i ddatblygu uned newydd gwerth £22m ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dioddef amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl yn Ne, Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd prif nodweddion y cyfleuster newydd o’r radd flaenaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys:
• Gwasanaeth 24 awr, saith niwrnod yr wythnos.
• Ward triniaeth gynlluniedig gyda 14 gwely.
• Ward dibyniaeth uchel ac argyfwng gyda 5 gwely.
• 19 ystafell wely gydag ystafelloedd ymolchi a chyfleusterau dros nos ar gyfer perthnasau ac ymwelwyr.
• Uned glasoed gyffredinol ar gyfer derbyniadau aciwt a brys.
• Cyfleusterau ar gyfer therapi teulu ac amrywiaeth o therapïau eraill.
• Nifer o ystafelloedd chwarae, ystafelloedd cyffredin, ystafelloedd teledu ac ystafelloedd distaw.
• Campfa a neuadd chwaraeon.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart: “Bydd yr uned newydd hon yn galluogi mwy o bobl ifanc i dderbyn gofal yn agosach at eu cartref, eu teulu a’u ffrindiau, gan leihau’r angen i deithio i dderbyn triniaeth.
“Bydd yn darparu gwasanaeth mwy cyfannol, gyda thriniaeth a chefnogaeth ddilynol effeithiol a llyfn ar ôl i gleifion symud ymlaen o gyfnod claf mewnol eu gofal.
“Bydd hefyd yn lleihau’r ddibyniaeth bresennol ar ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol nad ydynt yn wasanaethau’r GIG ac sydd y tu allan i Gymru.
Dywedodd Dr Merj Hassan, Clinigydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Ymddiriedolaethau GIG Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg: “Rwyf yn falch iawn bod y cynllun angenrheidiol hwn yn symud yn ei flaen. Bydd yr uned yn gam mawr tuag at wella’r gwasanaethau y gallwn ni eu cynnig, a hynny mewn amgylchedd sydd wedi’i gynllunio’r arbennig ar gyfer pobl ifanc.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o bwyslais wedi ei roi ar yr angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc. Mae ymyriadau teulu yn elfen bwysig o driniaeth cleifion glasoed a phobl ifanc sy’n dioddef problemau iechyd meddwl.
“Yr arfer gorau yw cynnwys y teulu yn y sesiynau therapi ac mewn gwaith arall gyda’r unigolyn ifanc. Bydd yr uned newydd yn galluogi datblygiad gwaith o’r fath.”
Bydd yr uned newydd yn helpu plant a phobl ifanc sy’n profi cyflyrau iechyd meddwl cymhleth, gan gynnwys anhwylderau bwyta ac anhwylderau tymer, a disgwylir iddi agor tua diwedd 2009.