Prifysgol Caerdydd yn adnabod ‘genyn risg’ sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia

Prifysgol Caerdydd yn adnabod ‘genyn risg’ sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi adnabod ‘genyn risg’ sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia, gan bwyntio at un o achosion posibl y salwch.
Edrychodd grŵp ymchwil Ysgol Feddygol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Michael O’Donovan, Nick Craddock a Michael Owen, ar samplau DNA dros 7,000 o bobl sy’n dioddef o sgitsoffrenia, a bron 13,000 o bobl heb y salwch.

Dywedodd yr Athro O’Donovan: “Roeddem yn chwilio am newidiadau cyffredin yn y cod genetig oedd yn digwydd yn amlach mewn pobl gyda sgitsoffrenia na phobl heb y salwch. Ymysg y genynnau a ganfuwyd, roedd y dystiolaeth ar gyfer y genyn ZNF804A yn arbennig o gryf.

“Mae angen i ni nawr adnabod y genynnau eraill y gall eu troi ymlaen ac i ffwrdd. O ganfod pa rai sy’n cael eu rheoleiddio, dylai ddweud llawer wrthym ni am ba aflonyddwch biogemegol sy’n arwain at afiechyd, a rhoi cliwiau pellach allweddol i ni am darddiad sgitsoffrenia a, gobeithio, am ffyrdd newydd o’i drin.”

Wrth wneud sylwadau ar ymchwil Prifysgol Caerdydd, dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl, Hafal: “Mae ein Haelodau – sy’n cynnwys nifer o bobl gyda sgitsoffrenia – yn falch iawn o’r ffaith bod gan Brifysgol o Gymru ran flaenllaw yn fyd-eang yn y gwaith o astudio geneteg a’i gysylltiad ag afiechyd meddwl, ac mae diddordeb mawr ganddynt yn y canfyddiadau diweddaraf.

“Mae aelodau Hafal wedi bod yn falch iawn o gefnogi’r Brifysgol yn ei waith ymchwil, ac maent newydd wneud ymrwymiad pellach i gynorthwyo gydag ymchwil yn y maes hollbwysig yma.

“Rwy’n sicr y byddai’n ffrindiau a’n cydweithwyr yn y Brifysgol yn cytuno bod afiechyd meddwl yn beth cymhleth. Mae ein Haelodau’n credu bod achosion genetig posibl, sy’n golygu bod gan bobl rhagdueddiad i ddioddef afiechyd meddwl, ond bod nifer o ffactorau eraill, gan gynnwys profiadau bywyd, a all sbarduno afiechyd meddwl. Mae’n bwysig ystyried yr holl achosion hyn mewn perthynas ag iechyd pobl, gan fod cymhlethdod afiechyd meddwl yn gofyn am atebion soffistigedig.

“Mae Rhaglen Adferiad Hafal yn cydnabod bod nifer o ffactorau – o feddyginiaeth i seicotherapi, o gyflogaeth i dai – yn cyfrannu at iechyd meddyliol. Mae angen ystyried yr agwedd gyfannol, ehangach hon drwy’r amser wrth drafod yr hyn all greu ac atal afiechyd meddwl.”

Dywedodd Truck Johnstone, un o gleientiaid a defnyddiwr gwasanaethau Hafal o Abertawe: “Rwyf wir yn croesawu’r ymchwil yma. Mae’n bwysi deall pam fod pobl fel fi yn datblygu afiechydon meddwl fel sgitsoffrenia.

“Ond i mi, y peth pwysicaf yw ymchwilio i’r driniaeth gywir ar gyfer sgitsoffrenia, ac nid yw hynny’n golygu cael y feddyginiaeth gywir yn unig. Mae’n golygu edrych ar faterion fel cyflogaeth, therapïau, iechyd corfforol ac addysg. Er enghraifft, y peth pwysicaf i mi oedd dod o hyd i’r lle cywir i fyw.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i:http://www.cardiff.ac.uk/medic/