Mae adroddiad yn honni y ceir cymeradwyaeth ar ôl ymgynghorid ar y mater ddod i ben yr hydref hwn.
Mae’r newyddion yn dod ar ôl i banel o arbenigwyr weld bod therapi celf yn gweithio’n arbennig o dda ar gleifion gyda symptomau fel mynd i’w cragen ac ysgogiad gwael.
Dywedodd Dr Tim Kendall, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan sy’n Cydweithio’n Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, sydd wedi helpu i roi arweiniad drafft at ei gilydd bod Therapyddion Celf ar gael yn barod ond bod y gwasanaeth yn anghyson.
Dywedodd: “Rydym wedi casglu data at ei gilydd o chwe arbrawf gwahanol ar gannoedd o bobl ac mae’n ymddangos bod therapi dawns, celf a cherddoriaeth yn cael lles cadarnhaol .
“Yn Sheffield lle rwy’n gweithio, mae ar gael yn weddol eang ond nid oes gan rai ardaloedd y gwasanaeth.”
Bydd Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Glinigol a Iechyd (NICE) yn hybu defnyddio rhaglenni sy’n cynnig therapi cerddoriaeth, celf a dawns.
Mae cynlluniau’n defnyddio therapyddion sydd wedi eu hyfforddi gyda graddau mewn celf, cerddoriaeth neu ddawns ac yn hybu pobl sy’n dioddef o sgitsoffrenia i fod yn greadigol yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp.
Bydd ymgynghori ar yr argymhellion newydd ar agor tan mis Tachwedd a disgwylir arweiniad terfynol y flwyddyn nesaf.
Mae Dr Mike Crawford, arbenigwr mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngholeg Imperial, Llundain, wedi cynnal astudiaethau ar therapi celf. Dywedodd mai mantais y math hwn o driniaeth yw ei bod yn helpu pobl i gyfathrebu.
Dywedodd wrth y BBC: “Gyda seicosis rhan o’r broblem yw rhithweledigaethau a rhithdybiau ac mae’n anodd iawn i siarad â phobl amdanyn nhw. Gall pobl fynd i deimlo’n unig oherwydd nad oes neb yn gwrando arnynt.
Er bod tystiolaeth bod y therapïau hyn yn gweithio, nid ydym wir yn gwybod sut.
“Mae’n bosibl eu bod yn gweithio oherwydd eu bod ond yn dod â phobl at ei gilydd a thorri’r cylch unigrwydd.”
I ddarllen mwy am y stori hon, ewch i: http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/7612901.stm