Mae’r Gweinidog Iechyd Gwrthbleidiol, Jonathan Morgan, yn dweud y gallai nod Llywodraeth y Cynulliad i gael un nyrs teulu i bob ysgol uwchradd yng Nghymru helpu i ganfod problemau iechyd meddwl yn gynnar ymysg pobl ifanc.
Lansiwyd cynllun newydd gan Lywodraeth y Cynulliad yr wythnos hon, gyda’r bwriad o fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, gordewdra a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau.
Mae swyddogion y Llywodraeth wedi gosod 2011 fel y dyddiad targed ar gyfer sefydlu’r gwasanaeth cyfrinachol hwn ar gyfer plant ysgol.
Disgrifiwyd y cynllun fel un fyddai’n “chwyldroi nyrsio ysgolion”, ac yn ôl Mr Morgan, sy’n Gadeirydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad, mae’n fenter fydd yn helpu pobl ifanc ar gyfnod bregus iawn yn eu bywydau.
Gobaith Mr Morgan yw y bydd nyrsys ysgol yn gallu adnabod problemau iechyd meddwl yn llawer cynharach, gan fod “cynnydd sylweddol” wedi bod yn nifer y plant sydd angen cymorth yn y maes hwn dros y tair degawd ddiwethaf.
Ychwanegodd y bydd y GIG yn talu’r pris mewn blynyddoedd i ddod os na gymerir camau nawr i fynd i’r afael â materion fel yfed dan oed a gordewdra.
Cyn lansio’r cynllun, gofynnwyd i blant beth yr hoffent ei weld yn y gwasanaeth newydd, a bydd pedwar model posibl ar gyfer nyrsio ysgolion nawr yn cael eu hystyried yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cynulliad, Edwina Hart: “Rhaid i’r her o wella iechyd yng Nghymru gychwyn gyda’n plant a’n pobl ifanc.
“Mae nifer cynyddol o blant yn datblygu cyflyrau cronig a phroblemau iechyd cymhleth, a dim ond trwy wella’r gefnogaeth a gynigir mewn ysgolion y gallwn ni ddelio â’r problemau hyn cyn iddynt fod yn endemig.
“Mae’r gwasanaeth nyrsio ysgolion cyfredol yn amrywio o sir i sir ar draws Cymru, ac mae’n bosibl nad yw’n cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i bawb. Ein bwriad ni yw sicrhau bod y gwasanaeth iechyd a gynigir i blant a phobl ifanc o oed ysgol yn gynaliadwy, yn gallu addasu i newidiadau, yn ymatebol ac yn effeithiol, gan sicrhau datblygiad a gwelliant parhaus.”
I ddarllen mwy am y stori hon, ewch i: http://new.wales.gov.uk/news/topic/health/2008/080922nurses/?lang=cy
Adroddiad yn awgrymu bod dedfrydau penagored i garchar yn niweidiol i iechyd meddwl
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan ganolfan iechyd meddwl Sainsbury, mae gan bobl sy’n cael eu Carcharu er mwyn Amddiffyn y Cyhoedd (IPP) raddfa uchel o salwch meddyliol, ac nid ydynt yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i roi trefn ar eu bywydau.
Dangosodd adroddiad yr elusen- “In the Dark: the mental health implications of imprisonment for public protection” – bod carcharorion oedd wedi’u caethiwo er mwyn amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr yn llawer mwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl na’u cyd-garcharorion.
Mae’r IPP yn ddedfryd ar gyfer pobl sydd wedi cyflawni troseddau nad ydynt yn ddigon difrifol i gael eu carcharu am oes, ond sy’n bobl beryglus ym marn y llys. Mae 4,600 o garcharorion fel hyn yng Nghymru a Lloegr, ac ni ellir eu rhyddhau nes y bydd y Bwrdd Parôl yn teimlo nad ydynt bellach yn beryglus.
Yn ôl canolfan Sainsbury, mae’n ymddangos bod cael eu carcharu er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn gwneud problemau iechyd meddwl yn waeth, oherwydd yr anobaith a’r ansicrwydd y mae’n ei greu.
Gwelodd yr adroddiad hefyd bod carcharorion sy’n cael eu carcharu er mwyn amddiffyn y cyhoedd, ac sy’n dioddef problemau iechyd meddwl, yn aml yn methu â chymryd rhan mewn rhaglenni ymddygiad troseddwyr. Mae hyn yn creu problemau gan fod y carcharorion yn annhebygol o allu profi nad ydynt bellach yn beryglus heb y rhaglenni hyn.
Mae awduron “In the Dark” wedi galw am roi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn carcharorion sydd â phroblemau iechyd meddwl ac am newid i’r system Carcharu er mwyn Amddiffyn y Cyhoedd.
Dywedodd Prif Weithredwr canolfan Sainsbury, Angela Greatly: “Mae’r nifer sy’n cael eu carcharu er mwyn amddiffyn y cyhoedd wedi cynyddu y tu hwnt i bob disgwyl. Rydym yn pryderu bod rhai troseddwyr gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol yn cael eu dedfrydu i garchar yn hytrach na chael eu cadw yn yr ysbyty.
“Dylai newidiadau diweddar i’r gyfraith atal pobl sydd wedi cyflawni man droseddau rhag cael eu carcharu er mwyn amddiffyn y cyhoedd. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau nad yw troseddwyr gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol yn cael eu rhoi ar IPP os oes angen triniaeth ysbyty arnynt. Ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw pobl yn cael eu cadw yn y carchar y tu hwnt i’w dedfryd, yn syml am na allant fanteisio ar raglenni ymddygiad troseddwyr neu os nad yw’r gefnogaeth gywir ar gael iddynt yn y gymuned.”
I ddarllen mwy am y stori hon, ewch i: http://www.scmh.org.uk/news/2008_prisoners_left_in_the_dark.aspx