Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart, wedi amlinellu ei chynlluniau gwario ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd nesaf.
Roedd cyhoeddiad Hart yn dilyn y gyllideb drafft yr wythnos ddiwethaf, oedd yn cynnwys cyhoeddiad am nawdd ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, fel rhan o ymrwymiadau Cymru’n Un Llywodraeth y Cynulliad.
Bydd y gwasanaethau iechyd meddwl yn cael buddsoddiad o £16.1m yn ystod 2009-10 (o’i gymharu ag £14.7m yn ystod 2008-09) a’r ffigwr hwn i godi i £19.2m yn ystod 2010-11.
Mae Hart hefyd wedi gado £117m yn ychwanegol ar gyfer y GIG er mwyn helpu gostwng amseroedd aros i 26 wythnos.
Amlinellwyd mwy o wariant ar ofal newydd-anedig a gwasanaethau anhwylderau bwyta hefyd.
Daeth cyhoeddiad Hart yng nghanol mis hynod brysur ym myd iechyd meddwl.
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd (Hydref 10fed) cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad arweiniad newydd i annog defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl a’u gofalwyr i chwarae mwy o ran yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl.
Ddeuddydd yn gynharach, cynhaliwyd arddangosfa ffotograffiaeth unigryw yn y Senedd gan Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl sy’n dioddef afiechyd meddwl a’u gofalwyr.
Roedd ymgyrch yr elusen, “Ydych chi wedi Clicio?”, yn ceisio lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl, ac yn cynnwys ffotograffau gwych gan ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd.
Yn ystod y mis pwysig hwn hefyd, gwelwyd un o’r dogfennau mwyaf hir-ddisgwyliedig yn hanes gofal iechyd meddwl yng Nghymru yn cael ei chyhoeddi.
Nod y Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl yw sicrhau y bydd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru o’r safon gorau posibl.
Croesawyd y Cod gan ddefnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr, ac yn enwedig ei bennod gynhwysfawr ar gynllunio gofal.
Wrth lunio’r Cod – sydd i bob pwrpas yn pennu sut y bydd y Ddeddf Iechyd Meddwl ddiwygiedig yn cael ei gweithredu yng Nghymru – ymgynghorodd Llywodraeth y Cynulliad yn helaeth.
Un o’r cyfranwyr mwyaf dylanwadol yn ystod y broses ymgynghori oedd Jo Roberts, un o ddefnyddwyr gwasanaethau Hafal, sef prif elusen Cymru ar gyfer pobl sy’n dioddef afiechyd meddwl difrifol.
Y llynedd, creodd Jo flog ar y we er mwyn casglu barn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o bob cwr o Gymru am y Cod Ymarfer drafft.
Roedd yr ymateb a gafodd Jo yn anhygoel.
Dywedodd: “Cefais ymatebion o bob rhan o Gymru, oedd yn wych.
“Y newyddion da yw bod y bobl sy’n ysgrifennu’r Cod wedi cymryd sylw o’r Blog ac wedi ymgorffori rhai o’r prif argymhellion ar gynllunio gofal.”
Bydd y Cod yn rhoi hawl i gleifion sy’n destun y Ddeddf Iechyd Meddwl gael cynllun gofal cyfannol.
Mae ambell fater allweddol arall, fel awgrym i ad-drefnu’r Egwyddorion Arweiniol; agwedd fwy gadarnhaol tuag at ymweliadau i’r ysbyty gan deulu a ffrindiau; a mwy o bwyslais ar gynnwys cleifion a gofalwyr wrth wneud penderfyniadau am driniaethau, hefyd wedi cael eu hymgorffori.
Yn ystod y broses ymgynghori, gweithiodd Prif Weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones, yn agos gyda Jo ar ei blog. Yn wir, seiliodd Hafal ran helaeth o’i ymateb i’r ymgynghoriad ar y sylwadau a dderbyniodd Jo gan gleifion a gofalwyr.
Dywedodd Mr Walden-Jones: “Mae Hafal wedi ymgyrchu’n gyson i roi cynllunio effeithiol o driniaeth a gofal wrth graidd cyflwyno gwasanaethau effeithiol, yn ogystal â rhoi lle cwbl ganolog iddo wrth gynnwys defnyddwyr
“Mae’r Cod Ymarfer nawr yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau bod hyn yn digwydd.
“Rhaid canmol Llywodraeth y Cynulliad am gyflawni’r cam pwysig hwn o ran cyflwyno gwasanaeth effeithiol i gleifion yng Nghymru sy’n destun y Ddeddf Iechyd Meddwl.”
I ddarllen mwy am Arweiniad y Cynulliad, a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/newsitem.cfm?contentid=10762