Cynllun lleihau hunanladdiadau’r cynulliad yn cael ei groesawu

Mae strategaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i leihau nifer yr achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio wedi cael croeso cyffredinol gan y sector iechyd meddwl.

Mae Siarad â fi: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru yn cynnwys nifer o dargedau allweddol sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl yng Nghymru.

Dengys ystadegau nad oes unrhyw gysylltiad rhwng bron dri chwarter y bobl sy’n cyflawni hunanladdiad yng Nghymru a gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn cyn eu marwolaeth, felly mae’r cynllun, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, yn cynnwys nifer o dargedau allweddol sy’n gobeithio gwella’r sefyllfa hon.

Bydd cynllun y Cynulliad yn derbyn nawdd o dros £420,000 y flwyddyn ar gyfer llinell gymorth 24 awr, gyda £100,000 y flwyddyn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer cydlynydd Samariaid.

Bydd y cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys rhaglenni a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y Cynulliad, megis y strategaeth cwnsela gwerth £6.5 miliwn ar gyfer ysgolion, fydd yn sicrhau bod gan bob disgybl yng Nghymru rhywun i siarad â nhw os byddant angen cymorth neu gefnogaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart: “Mae pob achos o hunanladdiad yn drasiedi, pan fydd bywyd ac aelod o deulu’n cael ei golli.  I’r rhai a gaiff eu gadael ar ôl, mae hunanladdiad yn aml yn gadael briw nad yw byth yn gwella.

“Mae angen i ni newid agweddau am faterion iechyd meddwl fel y gellir adnabod yr arwyddion, a chynnig cefnogaeth, yn gynharach o lawer, er mwyn lleihau’r gyfradd hunanladdiad a hunan-niweidio.

“Mae nifer sylweddol o fentrau eisoes yn bodoli yng Nghymru i gynnig cefnogaeth, ond mae’r cynllun gweithredu hwn yn dod â nhw at ei gilydd ac yn ymestyn eu gorchudd, er mwyn cynnig agwedd gydlynol ledled Cymru.”

Croesawodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal, elusen fwyaf blaenllaw Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr, y cynllun gweithredu, gan ychwanegu: “Yn ogystal â’r boblogaeth ehangach, mae gan Lywodraeth y Cynulliad ddyletswydd arbennig i ofalu am bobl sydd eisoes wedi cael diagnosis o afiechyd meddwl difrifol.

“Ar gyfer pobl gydag anhwylder deubegwn, mae’r perygl o hunanladdiad 15 gwaith yn uwch nag ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol.  Mae’r perygl 8.5 gwaith yn uwch ar gyfer pobl gyda sgitsoffrenia, felly mae angen i ni helpu’r bobl hyn drwy roi gwasanaethau iechyd meddwl o safon iddyn nhw.

“Mae hyn yn parhau i fod yn faes hynod bwysig, ac mae angen adnabod y bobl fregus a chynnig cefnogaeth iddynt cyn gynted â phosibl.

“Ar hyn o bryd, tameidiog iawn yw gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, sy’n golygu y gall rhai pobl deimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso, ac eraill yn canfod eu hunain yn symud o un gwasanaeth i’r llall heb gael lefel gyson o driniaeth.

“Mae llawer o bobl yn cael profiadau gwael mewn ysbytai, ac yna’n teimlo’n unig iawn ac fel petaent yn cael eu hesgeuluso pan fyddant yn gadael.  Mae’r cylchdroi parhaol hwn yn achos llawer o boen meddwl, ac yn benodol, yn achos sawl hunanladdiad.”

Ar gyfartaledd, bydd 300 o bobl yn marw o hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru – cyfradd is na’r Alban a Gogledd Iwerddon, ond uwch na Lloegr – gyda’r gyfradd wedi aros yr un fath dros y ddegawd ddiwethaf.

I ddarllen adroddiad Siarad â fi: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru, dilynwch y cyswllt canlynol: http://www.wales.nhs.uk/documents/talktomee[1].pdf

I gael gwybod mwy am Hafal, ewch i: http://www.hafal.org/