Gweinidog yn gwahodd trafodaeth am sut i dalu am ofal yng Nghymru

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi amlinellu’r agwedd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei gymryd at amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â Gofalwyr.

Mewn araith bellgyrhaeddol yng Nghynhadledd Ysgol y Gyfraith, Caerdydd, ar Dachwedd 14eg, amlinellodd y Gweinidog ei strategaeth ar faterion oedd yn cynnwys goflawyr a’r agenda personoleiddio; Taliadau Uniongyrchol; cynnig diwygio lles yr Adran Gwaith a Phensiynnau ac ymgynghoriad y Cynulliad ar dalu am ofal yng Nghymru.

Yn ystod araith fanwl, bu’r Gweinidog yn:

• Mynegi pryderon am ddilyn bwriad polisi Lloegr “i ehangu trefn gyllidebu unigol neu bersonol drwy’r holl wasanaethau cymdeithasol o fewn y tair blynedd nesaf”;

• Cyhoeddi y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori ar sut i ehangu’r ddarpariaeth taliadau uniongyrchol yn ystod 2009;

• Cydnabod a rhoi addewid i weithredu ar bryderon bod ymgynghoriad yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ddiwygio lles “yn edrych fel pe bai wedi’i selio ar yr agwedd polisi ar gyfer cyllidebau yn Lloegr”;

• Nodi y bydd cynigion manwl am sut i ddiwygio’r trefniadau cyfredol ar gyfer talu am ofal yn cael eu hystyried ym Mhapur Gwyrdd y Cynulliad, i gael ei gyhoeddi’r gwanwyn nesaf.

Ar y mater o dalu am ofal, dywedodd y Gweinidog: “Ar y cam hwn o’r broses, rwyf eisiau gweld trafodaeth am y nodau, yr egwyddorion a’r gwerthoedd y mae angen i ni eu sefydlu, ac rwyf wedi lansio papur ymgynghori sy’n nodi rhai o’r prif faterion.

Pwysleisiodd hefyd: “Mae hwn yn gyfle allweddol i gymryd rhan mewn trafodaethau am faterion fydd yn effeithio ar bron bob teulu yng Nghymru ar ryw adeg.”

Fel rhan o’r drafodaeth, bydd cynadleddau cenedlaethol yn cael eu cynnal yng Ngogledd a De Cymru. Bydd deunyddiau’n cael eu darparu er mwyn i awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a rhwydweithiau a fforymau sy’n bodoli, gymryd rhan uniongyrchol yn y drafodaeth.

Mae gwefan rhyngweithiol dan y teitl, Paying for Care, wedi’i sefydlu hefyd. Gellir gweld y wefan yn: http://www.payingforcareinwales.net/Home.asp?lang=cym