Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb i feirniadaeth a dderbyniwyd yn dilyn y cyhoeddiad bod nifer y gwlau GIG yng Nghymru wedi cael ei dorri o 229 y flwyddyn ddiwethaf.
Bellach, mae 13,354 o wlau GIG yng Nghymru, 12% yn llai na’r nifer 10 mlynedd yn ôl. Yn nhermau iechyd meddwl, mae’r nifer wedi gostwng o 948 (29%) i 2,324 mewn degawd.
Honodd y Gweinidog Iechyd Gwrthbleidiol, Jonathan Morgan, a Llefarydd Iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jenny Randerson, bod y ffigyrau’n dangos bod y Llywodraeth wedi rhoi “cyllidebau o flaen gofal cleifion” a bod y GIG wedi cael ei “ddiosg o adnoddau” dros y ddegawd ddiwethaf.
Fodd bynnag, pwysleisiodd Llefarydd ar ran y Cynulliad (mewn datganiad i Iechyd Meddwl Cymru) bod y cynydd yn y gefnogaeth gymunedol a gynigir i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn mwy na gwneud iawn am y gostyngiad yn nifer y gwlau.
Dadl y Llywodraeth yw bod y gostyngiad hwn yn nifer y gwlau iechyd meddwl yn y GIG mewn gwirionedd yn arwydd o lwyddiant.
Dywedodd y Llefarydd: “Mae ein strategaeth iechyd meddwl a’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol wedi ceisio moderneiddio gofal iechyd meddwl yng Nghymru, gan drawsnewid gwasanaethau yn y sectorau sylfaenol, eilaidd cymunedol, eilaidd cleifion mewnol a thrydyddol.
“Cyflawnwyd gostyngiad yn nifer y gwlau iechyd meddwl o ganlyniad i gynydd sylweddol yn y gefnogaeth gymunedol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl.
“Mae hyn yn golygu y gall mwy o bobl, sy’n dioddef o salwch meddyliol difrifol a pharhaol, reoli eu cyflwr yn well drwy fyw yn y gymuned, gyda chefnogaeth gwasanaethau allymestyn, ac mae hyn yn amlwg o’r ffigyrau diweddar a gyhoeddwyd.
“Rydym yn anelu at ddatblygu mwy o wasanaethau cymunedol, a’r rheiny’n rai gwell, gan arwain at fwy o bobl yn cael gofal a thriniaeth yn eu cymunedau eu hunain, a ble bynnag y bo’n bosibl, yn eu cartrefi eu hunain – ac mae’r cynydd hwn yn y dewisiadau ar gyfer cleifion yn lleihau’r angen iddynt fynd i aros yn yr ysbyty.
“Os bydd yn hanfodol mynd i’r ysbyty er mwyn datblygu triniaeth y claf, bydd preifatrwydd, diogelwch, ac urddas i gyd yn ffactorau hanfodol o’r gofal a gynigir.”