Bu Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, yn agor uned iechyd meddwl newydd ar gyfer yr henoed yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Mae Canolfan Iorwerth Jones – hen gartref preswyl yn Llanisien – wedi cael ei ailddatblygu i greu cyfleuster triniaeth modern, a hynny’n dilyn buddsoddiad o £3 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad.
Wrth agor y Ganolfan, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n bleser mawr gennyf fod yma heddiw gan i mi ddod i adnabod Iorwerth Jones yn dda iawn ddeugain mlynedd yn ôl, pan ddechreuais i gymryd rhan yn y bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yn gynghorydd hynod, gydag ymrwymiad cryf i wasanaethau cymdeithasol.
Mae’r buddsoddiad hwn mewn triniaeth ar gyfer pobl hŷn sy’n dioddef problemau iechyd meddwl yn Ne Cymru yn ffordd addas o ddathlu a chofio ei ymrwymiad.”
Bydd tair ward yn cael eu trosglwyddo o Ysbyty’r Eglwys Newydd i’r ganolfan newydd hon, fydd yn cynnig 45 o wlâu cleifion mewnol, sydd mawr eu hangen, ar gyfer rhai o’n trigolion mwyaf bregus.
“Ni ellir pwysleisio ddigon ar bwysigrwydd sicrhau amgylcheddau diogel a therapiwtig ar gyfer cleifion mewnol,” ychwanegodd Mr Morgan. “Credaf fod y ganolfan hon yn enghraifft wych o gyfleuster o’r fath.”
Mae agor canolfan newydd Iorwerth Jones yn rhan o gynllun mwy ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, sydd hefyd yn cynnwys cau Ysbyty’r Eglwys Newydd.
Cymeradwyo gwaith fydd yn arwain y ffordd at uned iechyd meddwl newydd ar gyfer plant yn Ne Cymru.
Mae cynllun i wella maes parcio a mynedfa Ysbyty Tywysog Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, fel cam cyntaf tuag at greu uned iechyd meddwl newydd yn yr ysbyty ar gyfer plant a phobl ifanc, wedi cael cymeradwyaeth y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart.
Bydd y datblygiad gwerth £10 miliwn hefyd yn galluogi symud y gwasanaethau plant i leoliad cyfagos i’r uned newydd arfaethedig, fydd yn cynnig y gwasanaeth hanfodol hwn ar gyfer y cyfan o Dde Cymru.
Mae cynlluniau ar gyfer yr uned newydd, y mae disgwyl iddi gostio £22m, wrthi’n cael eu gorffen gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Bro Morgannwg Abertawe, yn barod i’w cymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd. Ariennir y ddau ddatblygiad gan Lywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae plant a phobl ifanc angen gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, a phwrpasol. Rwy’n falch o allu darparu’r nawdd hynod bwysig yma fydd yn galluogi i’r gwaith isadeiladol fynd rhagddo, ac i’r gwaith ar yr uned newydd gychwyn cyn gynted ag y bo modd unwaith y bydd yr achos busnes terfynol wedi’i gymeradwyo.
“Bydd yr uned, fydd yn cynnig gwasanaeth 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, yn cynnwys ward driniaeth gynlluniedig 14 gwely a ward argyfwng a dibyniaeth uchel gyda phum gwely, a bydd yn helpu plant a phobl ifanc sy’n dioddef problemau iechyd meddwl cymhleth, fel anhwylderau bwyta, anhwylderau tymer a hunan-niweidio.
“Mae’r uned newydd wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ei fod yn lleoliad canolog yn Ne Cymru. Bydd yn gwella’r gofal a gynigir i bobl ifanc yr ardal yn enfawr.”
Mae disgwyl i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg Abertawe gyflwyno ei achos busnes terfynol ar gyfer y datblygiad i’r Gweinidog Iechyd yn y flwyddyn newydd.