Yn ystod blwyddyn dathlu pen-blwydd y GIG yn 60, mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi cyhoeddi enwau aelodau grŵp annibynnol newydd – a enwyd ar ôl sylfaenydd y GIG, Aneurin Bevan – i helpu sicrhau bod newidiadau i strwythur y GIG yn gosod Cymru “ar y llwybr cywir tuag at system gofal iechyd o safon fyd-eang”.
Bydd y grŵp, sef Comisiwn Bevan, hefyd yn rhoi cyngor arbenigol ar faterion iechyd sydd angen sylw a chyfleoedd ar gyfer gwelliannau cyflymach a gwell i wasanaeth yn y GIG.
Bydd yr Athro Mansel Aylward CB, cadeirydd Canolfan Iechyd Cymru, yn arwain y comisiwn, gydag wyth aelod arall yn ymuno o amrywiaeth o gefndiroedd iechyd.
Yr aelodau hyn yw:
• Dr Tony Calland, cadeirydd Pwyllgor Moeseg Meddygol y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) a chyn-gadeirydd Cyngor y BMA yng Nghymru;
• Yr Athro Syr Anthony Newman-Taylor CBE, Pennaeth y National Heart and Lung Institute a Dirprwy Bennaeth yr Adran Feddygol yn Imperial College, Llundain;
• Yr Athro Ceri Phillips, Athro Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe;
• Yr Athro Donald M Berwick KBE, Llywydd a Prif Swyddog Gweithredol (CEO) yr Institute for Healthcare Improvement;
• Yr Athro Allyson Pollock, Athro Polisi Iechyd Cyhoeddus Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caeredin
• Yr Athro Dame June Clark DBE, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe a chyn-lywydd y Coleg Nyrsio Brenhinol;
• Syr Ian Carruthers OBE, Prif Weithredwr Awdurdod Iechyd Strategol y De Orllewin; ac,
• Yr Athro Charlotte Williams OBE, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Keele.
Wrth sôn am y rhesymau dros ffurfio’r grŵp, dywedodd Edwina Hart: “Roedd dogfen Cymru’n Un yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i sefydlu gwasanaeth iechyd o’r radd flaenaf, sydd ar gael i bawb.
“Bydd Comisiwn Bevan yn rhoi cyngor arbenigol i mi ac yn helpu sicrhau bod Cymru’n parhau i fanteisio ar arfer gorau o bob rhan o’r byd, a chadw’n driw i egwyddorion y GIG, fel y sefydlwyd gan Aneurin Bevan, ar yr un pryd.
“Bydd ei aelodau’n dod o amryw wahanol gefndiroedd, a byddant yn ein helpu i archwilio materion dyrys, fel profiad y cleifion ac ansawdd gwasanaethau, ac i wireddu ymrwymiad Cymru’n Un i greu gwasanaeth iechyd o’r radd flaenaf ar gyfer pawb.
Ychwanegodd yr Athro Aylward: “Mae diwygio’r GIG yng Nghymru, ymrwymiad i Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Unedig, a sylw parhaus i gyflwyno safon a diogelwch mewn gofal iechyd, yn elfennau hanfodol ar gyfer llwyddiant ar y ffordd tuag at gyflawni gwasanaeth iechyd yng Nghymru sydd o safon fyd-eang.
“Bydd Comisiwn Bevan yn cynnig cyngor annibynnol ac arbenigol i helpu’r Gweinidog i gyflawni’r weledigaeth hon. Mae’n bleser gen i fod yn Cadeirio’r Comisiwn.”
Bydd y Comisiwn yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Gwener, 12 Rhagfyr, ac yn gweithredu fel grŵp ymgynghorol am gyfnod o hyd at ddwy flynedd.