Mae’r Gweinidog Gwaith a Phensiynau Gwladol, James Purnell, wedi gwyrdroi ei benderfyniad ar gynlluniau dadleuol i symud gofalwyr sy’n hawlio Cymhorthdal Incwm ar fersiwn ddiwygiedig o’r Lwfans Ceisio Gwaith.
Cynigiwyd syniad Purnell yn wreiddiol yn y Papur Gwyrdd “No one written off”, ond mewn Papur Gwyn a gyhoeddwyd yr wythnos hon, roedd y Llywodraeth yn cydnabod toreth o adborth pryderus gan amryw o sefydliadau gofalwyr, ac yn gwrthod y polisi.
Roedd y Papur Gwyn, dan y teitl “Raising expectations and increasing support: reforming welfare for the future”, yn nodi mewn adran a elwid yn “Carers and a simplified system”, eu bod “wedi gofyn yn y Papur Gwyrdd am farn pobl i weld a fyddai symud rhai gofalwyr ar y Lwfans Ceisio Gwaith, heb unrhyw newid yn yr amodau a osodir arnynt, yn addas.
“Roedd llawer o ofalwyr a’u sefydliadau cynrychiadol, yn gadarn iawn nad oedd y Lwfans Ceisio Gwaith yn fudd-dal addas ar gyfer gofalwyr.
“Esboniodd yr ymatebwyr na fyddai gofalwyr yn gallu gweithio oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu – oedd, er yn ddi-dâl, yn gymaint o gyfrifoldebau a rhai pobl mewn gwaith llawn amser.
“Yn yr adolygiad hwn o’r Papur Gwyn, dywedodd yr Athro Paul Gregg na ddylid disgwyl i bobl sydd â hawl i gael budd-daliadau gofalwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau dychwelyd i weithio, oni bai eu bod yn gwneud hynny o’u gwirfodd.
“Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwnnw.”
Roedd rhai sefydliadau gofalwyr wedi disgrifio cynnig Purnell fel “sarhad”. Fodd bynnag, roedd y Papur Gwyn yn cydnabod y “cymhlethdodau a’r rhwystrau” a brofir gan ofalwyr dan y system gyfredol a’r amgylchiadau economaidd.
Roedd y ddogfen hefyd yn pwysleisio bod y gefnogaeth a roddir gan ofalwyr o fewn teuluoedd a chymunedau, yn “gwbl hanfodol”, a rhoddwyd llw y byddai “anghenion gofalwyr yn cael lle canolog wrth i ni ystyried diwygiadau i’r system budd-daliadau yn y dyfodol.”
Nododd y byddai’r Llywodraeth “yn sicrhau bod cynigion ar gyfer unrhyw system gymhorthdal yn y dyfodol yn rhoi ystyriaeth briodol i ofalwyr ac yn eistedd yn daclus gyda chanlyniadau adolygiad yr Adran Iechyd o’r system gofal a chefnogaeth.”
I ddarllen y Papur Gwyn: “Raising expectations and increasing support: reforming welfare for the future” ewch i: http://www.dwp.gov.uk/welfarereform/raisingexpectations/fullversion.pdf