Adroddiad yn rhybuddio am

Mae adroddiad gan Ymddiriedolaeth y Tywysog (Prince’s Trust) wedi honni bod lleiafrif sylweddol o bobl ifanc yng Nghymru yn credu nad oes ystyr i’w bywyd.

Gwelodd yr arolwg, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, bod gan fwyafrif y bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yng Nghymru agwedd gadarnhaol tuag at fywyd, ond bod mwy nag un ym mhob deg yn aml yn teimlo’n isel neu’n dioddef o iselder.

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, a ddaeth o gyfweliadau gyda thua dwy fil o bobl o bob rhan o’r DU, dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru, Michael Mercieca: “Mae’r mynegai’n dangos cenhedlaeth gynyddol fregus. Mae pobl ifanc yn dweud wrthym mai teulu sy’n bwysig i’w hapusrwydd, ac eto rydym yn gweld, a hynny’n rhy aml o lawer, nad oes ganddynt y gefnogaeth hanfodol honno.”

Yn y cyfamser, mae adroddiad arall a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn honni bod plant oedd yn ymddwyn yn wael yn yr ysgol yn fwy tebygol o ddioddef afiechyd meddwl ac anawsterau cymdeithasol fel oedolion.

Wrth archwilio data a gasglwyd gan 3,500 o bobl, gwelodd ymchwilwyr o Ganada, oedd yn ysgrifennu yn y British Medical Journal, bod plant oedd wedi’u disgrifio fel rhai oedd â phroblemau ymddygiadol wrth iddynt gyrraedd eu glasoed cynnar, yn fwy tebygol o ddioddef iselder, o gael ysgariad, neu brofi problemau ariannol erbyn iddynt gyrraedd canol oed.

Roedd yr erthygl, gan ymchwilwyr o Brifysgol Alberta, yn nodi bod y cysylltiad ag ymddygiad yn dal ei dir, hyd yn oed ar ôl addasu’r canlyniadau i ystyried ffactorau eraill fel cenedl rhyw, dosbarth cymdeithasol y rhieni, iselder mewn glasoed ac IQ.

Ysgrifennwyd: “O ystyried y costau tymor hir i’r gymdeithas a’r effaith niweidiol ar y bobl ifanc eu hunain, mae posibl y bydd ein canlyniadau’n arwyddocaol o ran polisi iechyd cyhoeddus.”

I ddarllen adroddiad Ymddiriedolaeth y Tywysog, cliciwch yma: http://www.princes-trust.org.uk/main%20site%20v2/downloads/PTYG%20Youth%20Index%20jan09.pdf

I ddarllen stori’r British Medical Journal, cliciwch yma: http://www.bmj.com/