Mae adroddiad gan Gomisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl (MHAC) wedi canfod bod cleifion gydag anghenion iechyd meddwl cymhleth yn Ne Orllewin Cymru yn cael gofal o safon uchel yn Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda.
Fel rhan o’u bwriad i ddiogelu budd pobl sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bu Comisiynwyr yn ymweld â wardiau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan siarad â staff, cleifion a pherthnasau, yn ogystal â Grŵp Defnyddwyr Gwasanaethau Anhwylder Deubegwn Caerfyrddin, cynrychiolwyr o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth a chynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae’r adroddiad yn nodi bod staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl ar draws yr Ymddiriedolaeth yn arddangos ‘proffesiynoldeb eithriadol’ ac yn cynnig safonau gofal nodedig iawn.
Gwelodd y Comisiynwyr bod ‘mwyafrif llethol’ y cleifion yn fodlon iawn â’r gofal a’r cyfleusterau oedd ar gael, a bod y nifer bychan o faterion a godwyd yn rai a gafodd eu datrys rhan amlaf gyda staff y ward yn ystod yr ymweliad.
Roedd yr adroddiad, fodd bynnag, yn tynnu sylw at rai meysydd ar gyfer gwelliant pellach, gan gynnwys datblygu gweithgareddau dydd mewn rhai ardaloedd, ailaddurno rhai wardiau, a gweithio’n agosach gyda phartneriaid mewn Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn gostwng ymhellach nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud y bydd nawr yn mynd i’r afael â’r materion hyn fel mater o frys, er bod llawer o’r gwaith eisoes wedi’i wneud.
Dywedodd Pennaeth Nyrsio Iechyd Meddwl Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, Andrea Higgins: “Rydym yn falch iawn bod yr adroddiad wedi cydnabod y flaenoriaeth a roddir yn yr Ymddiriedolaeth hon i ddiogelu budd cleifion iechyd meddwl a chynnig y gofal a’r cyfleusterau gorau posibl iddynt. Mae’n destun balchder hefyd bod proffesiynoldeb ac ymrwymiad y staff wedi’i gydnabod.
“Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon a byddwn nawr yn defnyddio’r adroddiad i hysbysu gwelliannau a datblygiadau pellach.”
I gael gweld gwefan Comisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl, ewch i: http://www.mhac.org.uk
Am ragor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Hywel Dda, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?orgid=808