Pwyllgor y Cynulliad yn clywed am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol

Cafodd tystiolaeth am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol yng Nghymru ei gyflwyno i Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad.

Cafwyd cyflwyniadau ysgrifenedig ac ar lafar o nifer o ffynonellau, gan gynnwys Hafal, yr elusen Gymreig ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr a gaiff ei arwain gan gleifion.

Yn ystod y cyfarfod dwy awr a gynhaliwyd yn Ystafell Gyfarfod 1 y Senedd fore Iau, derbyniodd y pwyllgor, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gwrthbleidiol ar y pryd, Jonathan Morgan AC, adborth ar amrywiaeth o agweddau sy’n gysylltiedig â darpariaeth gwasanaeth.

Roedd yr agweddau hyn yn cynnwys:

• cwmpas ac argaeledd daearyddol y gwasanaethau;
• darpariaeth gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed wrth drosglwyddo o wasanaethau plant i rai oedolion;
• effaith y mae effeithiolrwydd gwasanaethau cymunedol yn ei gael ar dderbyniadau i ysbyty ac oedi wrth drosglwyddo gofal;
• cydlyniad effeithiol o elfennau iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol;
• materion cydraddoldeb sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, gan gynnwys y rhai ar gyfer grwpiau DELl;
• enghreifftiau o arfer da wrth gyflwyno gwasanaethau.

Cyflwynwyd tystiolaeth Hafal i’r pwyllgor gan y Dirprwy Brif Weithredwr, Alun Thomas, un o ddefnyddwyr gwasanaethau’r elusen, Collete Dawkin, a Lee McCabe, aelod o staff Hafal a chyn ddefnyddiwr gwasanaethau.

Dywedodd Mr Thomas wth y pwyllgor bod y ddarpariaeth o wasanaethai iechyd meddwl cymunedol yng Nghymru yn anghyson. I ategu’r pwynt hwn, dyfynnodd “Adolygiad Burrows Greenwell”, sef adroddiad am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Hafal ym mis Hydref 2007.

Ar fater plant yn cael eu trosglwyddo i wasanaethau oedolion, dywedodd Mr Thomas y byddai Hafal yn cychwyn ar brosiect yng Nghastell-nedd Port Talbot yn fuan (yn cael ei ariannu gan y Pfizer UK Foundation), sef “cynllun peilot yr ydym yn credu – fel model o arfer da – ddylai gael ei ddatblygu ledled Cymru yn y dyfodol”.

Esboniodd Mr Thomas y bydd y fenter hon yn delio â’r diffyg yn y ddarpariaeth drwy gyflogi Swyddog Iechyd Meddwl Pobl Ifanc fydd yn gweithio’n bwrpasol i gefnogi pobl ifanc dros 16 oed.

Yn ystod y cyfarfod, mynegodd Mr Thomas ddymuniad defnyddwyr gwasanaethau hefyd, fel yr amlinellir hwy yng nghyhoeddiad newydd Hafal, “Gwerthoedd Newydd – Arferion Newydd”, bod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol sydd ar ddod yn cynnwys gwerth sylfaenol newydd i ‘roi cleifion yn gyntaf’.

Dywedodd y dylai’r gwerth hwn “fod yn sylfaen i’r holl wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn y dyfodol” ac y dylai’r gwasanaethau “gael eu teilwra i fodloni anghenion y defnyddwyr unigol”.

“Un o’r prif ffyrdd o gyflawni hyn”, meddai Mr Thomas wrth y pwyllgor, “yw drwy gynllunio gofal yn effeithiol”.

I ddarllen tystiolaeth ysgrifenedig Hafal i’r Pwyllgor, ewch i:
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-hwlg-home/bus-committees-third-hwlg-agendas.htm?act=dis&id=117656&ds=2/2009

I ddarllen trawsgrifiad o gyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ddydd Iau, ewch i: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-hwlg-home/bus-committees-third-hwlg-agendas.htm

Angen gwirfoddolwyr ar gyfer astudiaeth anhwylder deubegwn

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Birmingham yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth fydd yn cwmpasu’r DU gyfan i ymchwilio i achosion anhwylder deubegwn.

Mae’n hawdd gwirfoddoli: bydd ymchwilwyr yn ymweld â chartrefi rhai fydd yn cymryd rhan ac yn treulio tuag awr gyda nhw yn eu holi am y math o symptomau maent wedi eu profi. Yna, bydd gofyn i’r gwirfoddolwyr lenwi holiaduron a rhoi sampl gwaed. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol.

Os byddech chi, neu rywun rydych chi’n eu hadnabod, sydd wedi profi un achos neu fwy o hwyliau anarferol o uchel (a elwir yn aml yn orawydd (mania) neu’n ‘hypo-mania’), yn hoffi cymryd rhan, cysylltwch â’r Tîm Ymchwilio i Anhwylderau Hwyliau ar 02920 744 392 neu anfonwch e-bost at Moodresearch@Cardiff.ac.uk .

MDF Cymru yn cyhoeddi prosiect cyswllt newydd

Mae MDF, Sefydliad Anhwylder Deubegwn Cymru, wedi cyhoeddi y bydd ei Brosiect Cyswllt Deubegwn newydd yn cael ei weithredu ledled De a Gorllewin Cymru o fis Ebrill 2009 ymlaen.

Bydd y prosiect yn cynnwys hyd at ddeugain o wirfoddolwyr (gydag anhwylder deubegwn) yn cael eu hyfforddi i weithio mewn 19 o ysbytai seiciatryddol. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn sefydlu cysylltiad gyda phobl drwy ymweliadau rheolaidd, a chan gynnig cefnogaeth a chydymdeimlad.

Bydd y cysylltiadau’n cael eu cynnal wrth i weithwyr cyswllt barhau i gynnig cefnogaeth yn y gymuned.
Am ragor o wybodaeth am MDF Cymru, ewch i: http://www.mdfwales.org.uk/?o=1669