Mae adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi canfod bod carcharorion gydag afiechyd meddwl yn debygol o aildroseddu gan nad ydynt yn cael triniaeth briodol.
Yn adolygiad yr Ymddiriedolaeth o Fyrddau Monitro Annibynnol 57 o garchardai a Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr, datgelwyd system sydd dan bwysau ac sy’n brwydro i ymateb i anghenion cymhleth pobl sydd, yn ôl yr adroddiad, yn aml “yn y lle anghywir”.
Roedd yr adolygiad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn nodi bod:
• troseddwyr “bregus” angen tai, gofal iechyd a thriniaeth gyffuriau wrth gael eu rhyddhau, er mwyn eu hatal rhag cyflawni mwy o droseddau;
• dros hanner y byrddau’n dweud eu bod wedi gweld carcharorion sydd yn “rhyw wael” i fod mewn celloedd;
• llawer o garchardai heb yr adnoddau i asesu anghenion iechyd meddwl carcharorion pan fyddant yn cyrraedd, na staff arbenigol i gynnig triniaeth;
• carcharorion gydag anableddau dysgu’n cael eu heithrio o weithgareddau dydd i ddydd y carchar; ac
• nad oedd yr un o’r byrddau yn adrodd bod teuluoedd yn cael eu cynnwys fel mater o drefn wrth wneud penderfyniadau am ofal iechyd meddwl.
Roedd yr adroddiad, “Too Little, Too Late: An Independent Review of Unmet Mental Health Need in Prison”, yn argymell nawdd newydd ar gyfer arbenigwyr anableddau dysgu a chynlluniau cyswllt newydd ar gyfer yr heddlu a’r llysoedd i gynorthwyo’r 72% o ddynion a 70% o ferched sy’n cael eu dedfrydu i garchar ac sydd yn ôl yr Ymddiriedolaeth yn dioddef o ddau neu fwy o anhwylderau iechyd meddwl.
Cafwyd ymateb eang i’r arolwg, a llawer o’r ymateb hwnnw’n mynegi siom yn y canfyddiadau.
Dywedodd Juliet Lyon, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai: “Mae’r adroddiad unigryw hwn yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â pham rydym ni’n rhoi ein pobl fwyaf bregus dan glo yn ein sefydliadau mwyaf llwm.
“Pam gwastraffu amser ac arian cyhoeddus yn adeiladu carchardai mwy a mwy os yw’n berffaith glir bod ein carchardai’n llawn o bobl sydd wir angen gofal iechyd meddwl a chymdeithasol priodol?”
Mynegodd Paul Cavadino, Prif Weithredwr Nacro, yr elusen sy’n gweithio i leihau troseddu, farn debyg iawn.
Dywedodd: “Mae rhoi cymaint o bobl sy’n wael eu meddwl dan glo yn warth i gymdeithas wâr.
“Mae’n hollol afresymol ein bod yn agor ein carchardai’n genedlaethol, i lysoedd roi troseddwyr gydag afiechyd meddwl dan glo, ac eto nid oes gennym system genedlaethol o gynlluniau i’w cyfeirio o’r llysoedd a gorsafoedd yr heddlu i mewn i ofal iechyd a chymdeithasol.”
I ddarllen yr adroddiad yn llawn, ewch i: http://www.prisonreformtrust.org.uk/temp/TOOspLITTLEspFINALspVERSIONlo.pdf