Mae’r Sefydliad Cenedlaethol er Rhagoriaeth Clinigol (NICE) wedi diweddaru ei ganllawiau ar gyfer y ffordd orau o drin a rheoli oedolion gyda sgitsoffrenia mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mae’r canllawiau newydd yn diweddaru’r canllawiau clinigol blaenorol a hefyd eu hargymhellion ar ddefnyddio cyffuriau gwrth-seicotig (annodweddiadol) diweddarach ar gyfer trin sgitsoffrenia.
Mae’r prif argymhellion, a gyhoeddwyd ar Fawrth 25ain, yn nodi y dylai:
• gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sicrhau eu bod yn ddigon cymwys i weithio gyda phobl gyda sgitsoffrenia o wahanol gefndiroedd ethnig a diwylliannol.
• gwasanaethau iechyd meddwl weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, gan gynnwys rhai sy’n cynrychioli grwpiau DELl, er mwyn galluogi pobl gyda sgitsoffrenia i gael gafael ar gyfleoedd cyflogaeth ac addysg lleol.
• therapi ymddygiad gwybyddol (ThYG) gael ei gynnig i bob unigolyn gyda sgitsoffrenia. Mae NICE hefyd yn nodi y dylid cynnig gweithgareddau cymdeithasol, grŵp a chorfforol fel ymarfer corff a’u cofnodi yng nghynlluniau gofal y claf.
• ymyriad teulu gael ei gynnig i deuluoedd pob unigolion syn dioddef sgitsoffrenia ac sy’n byw gyda neu mewn cysylltiad agos â’r defnyddwyr gwasanaethau.
• pobl sydd newydd dderbyn diagnosis o sgitsoffrenia, gael cynnig meddyginiaeth gwrth-seicotig ceg (e.e. ar ffurf tabledi). Dylid hefyd cynnig gwybodaeth a thrafodaeth gyda’r defnyddiwr gwasanaeth am broffil manteision a sgil effeithiau pob cyffur. Dylai’r dewis o ba gyffur i’w gymryd gael ei wneud ar y cyd rhwng y defnyddiwr gwasanaeth a’r gweithiwr iechyd proffesiynol.
• meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol eraill fonitro iechyd corfforol pobl gyda sgitsoffrenia o leiaf unwaith y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar asesiad risg afiechyd cardiofasgiwlar, a hynny gan fod pobl gyda sgitsoffrenia mewn mwy o berygl na’r boblogaeth gyffredinol o ddioddef afiechyd cardiofasgiwlar.
• ystyriaeth gael ei roi i gynnig therapïau celf i bob unigolyn gyda sgitsoffrenia, yn enwedig er mwyn lleddfu symptomau negyddol.
Gellir edrych ar ganllawiau newydd NICE ar gyfer Sgitsoffrenia yma: http://www.nice.org.uk/CG082
I ddarllen ymateb Hafal (prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr) i’r canllawiau newydd, cliciwch yma: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/news.php?id=63