Prif Weinidog yn cwestiynu’r polisi o anfon pôl gyda phroblemau iechyd meddwl i garchar

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan wedi herio “doethineb polisi dedfrydu sy’n son am anfon llawer o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol i garchar er mai triniaeth iechyd meddwl y tu allan i’r carchar sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd.”

Daeth barn Mr Morgan i’r amlwg yn ystod trafodaeth am wasanaethau iechyd mewn carchardai oedd, yn ogystal ag archwilio’r mater cyffredinol o bolisi dedfrydu, yn rhoi sylw i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS).

Dechreuodd y drafodaeth, yn ystod sesiwn Gwestiynau Prif Weinidog Cymru, gydag ymholiad gan Lefarydd Iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black AC.

Dyfynnodd Mr Black o erthygl cylchgrawn gan AS Pen-y-bont ar Ogwr, Maedline Moon, lle’r oedd yn nodi nad oes gwasanaeth mewn-gymorth cymunedol ar gael ar gyfer pobl ifanc yng ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr ac, o ganlyniad, bod plant bregus yn ei hetholaeth “yn methu â chael gafael ar wasanaeth y mae ganddynt hawl i’w dderbyn, ac sy’n cael ei gynnig i blant yn Lloegr.”

Wrth gael ei holi gan Mr Black am asesiad Ms Moon, cytunodd y Prif Weinidog bod angen datrys y diffyg parhaus hwn yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc yn haenau 2, 3 a 4 Carchar EM Parc.

Dywedodd Mr Morgan wrth Mr Black hefyd bod achos wedi’i gyflwyno i’r Cynulliad ym mis Rhagfyr am y diffyg CAMHS ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond: “Nad ydym eto wedi pennu hynny mewn cydweithrediad â Bwrdd Partneriaeth Iechyd y Carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”

Yna, gofynnodd Jonathan Morgan AC i’r Prif Weinidog roi sylwadau ar dri adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod mis Chwefror, oedd yn tynnu sylw at ddiffyg ar ran y gwasanaethau iechyd i gynnig gofal iechyd digonol i garcharorion a phobl ifanc ledled y DU.

Gofynnodd Mr Morgan i Brif Weinidog Cymru roi sicrhad y bydd byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud gwell gwaith na’u sefydliadau cyfatebol yn Lloegr.

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog: “Cyn i ofal iechyd mewn carchardai gael ei gymryd o ddwylo’r gwasanaeth carchardai – ac rwyf yn meddwl am hen garchardai’r sector cyhoeddus fel Caerdydd ac Abertawe, ac nid carchardai preifat, newydd, fel Carchar EM Parc – roedd yn wasanaeth gwael ofnadwy. Mae’r gwelliannau wedi bod yn rhai sylweddol ers hynny.

“Mae materion cymdeithasol eraill llawer ehangach i’w hystyried hefyd. Os oes problemau iechyd meddwl yn effeithio ar garcharorion, mae’n rhaid i chi ystyried doethineb y polisi dedfrydu sy’n anfon llawer o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl i garchar yn y lle cyntaf, er mai triniaeth iechyd meddwl y tu allan i’r carchar sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd.

“Ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw, ond rhaid i ni dderbyn bod dedfrydu cymaint â hynny o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl i garchar yn y lle cyntaf yn broblem fawr.”

Astudiaeth yn Sweden yn honni y gallai sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn fod yn ddwy fersiwn o’r un salwch meddyliol

Mae gwyddonwyr fu’n cynnal astudiaeth o naw miliwn o bobl yn Sweden dros 31 mlynedd wedi honni y gallai sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn rannu rhywfaint o’r un achos genetig.

Roedd yr astudiaeth, gan yr ymchwilwyr yn y Karolinska Institute yn Stockholm, yn cynnwys dwy filiwn o deuluoedd Swedaidd ac yn ymestyn dros gyfnod o 1973 i 2004.

Wrth ysgrifennu yn y cylchgrawn meddygol, The Lancet, dywedodd awduron yr astudiaeth, Dr Paul Lichtenstein a Dr Christina Hultman: “Rydym wedi dangos tystiolaeth bod sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn yn rhannu rhywfaint o’r un achos genetic. Mae’r canlyniadau hyn yn herio’r dicotomi cyfredol rhwng sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn ac yn cyd-fynd ag ailasesiad o’r cyflyrau hyn fel endidau diagnostig unigol.”

Gobaith yr ymchwilwyr o Sweden yw y gallai dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng y cyflyrau hyn wella triniaethau a’r gwaith o ddatblygu cyffuriau newydd.

I gael darllen mwy am yr astudiaeth, ewch i wefan y Karolinska Institute:
http://ki.se/ki/jsp/polopoly.jsp?a=68294&d=2323&l=en