Adroddiad yn dweud nad yw Gofynion Triniaeth Iechyd Meddwl yn cael eu defnyddio gan ddedfrydwyr

Mae llysoedd yn methu â gwneud yn fawr o botensial dedfrydau cymunedol sydd â’r pŵer i gadw troseddwyr sy’n dioddef problemau iechyd meddwl allan o garchardai.

Dyna farn y ganolfan iechyd meddwl Sainsbury Centre, elusen sydd newydd gyhoeddi adroddiad ar y mater o’r enw “A Missed Opportunity?”

Mae’r adroddiad, gan Husnara Khanom, Chiara Samele a Max Rutherford, yn nodi mai ychydig iawn o bobl sy’n cael Gofyniad Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTR) gan y llysoedd oherwydd diffyg dealltwriaeth a thueddiad o oedi hir.

Roedd cyhoeddiad y Sainsbury Centre yn archwilio pam fod y llysoedd a’r gwasanaethau iechyd a phrawf yn gwneud cyn lleied o ddefnydd o’r Gofyniad Triniaeth, a gwelodd nad yw’n glir iawn i ddedfrydwyr, staff y gwasanaeth prawf na gweithwyr iechyd proffesiynol beth yw pwrpas y Gofyniad na’r grŵp o bobl y gellir ei roi iddynt.

Mae’r adroddiad yn dweud bod oedi hir wrth gynhyrchu adroddiadau seiciatreg ar gyfer y llys yn rhwystr mawr i ddefnyddio’r Gofyniad – ac eto, heb i wasanaethau lleol gynnig triniaeth, ni all y llysoedd osod Gofyniad.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod llawer o ddryswch ymysg staff y gwasanaethau iechyd, prawf a’r llysoedd ynglŷn â sut y gellir torri amodau Gofyniad a beth ddylai’r canlyniad fod (mewn rhai achosion, gall torri gorchymyn cymunedol arwain at gyfnod mewn carchar).

Mae adroddiad “A Missed Opporunity?” yn dod i ben drwy alw ar y Llywodraeth i gyhoeddi arweiniad clir ar ddefnyddio’r Gofynion. Mae’n dweud y dylai timau arallgyfeirio’r llysoedd chwarae rhan allweddol wrth adnabod pobl a allai elwa o Ofyniad Triniaeth, ac y dylai ymddiriedolaethau gofal sylfaenol gynnig gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n destun y dedfrydau cymunedol yma.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sainsbury Centre, Angela Greatley: “Bob blwyddyn, bydd tua 70,000 o bobl yn mynd i garchar am ddedfrydau byr. Mae gan y rhan fwyaf o’r rhain broblemau iechyd meddwl. Gellir arallgyfeirio llawer ohonynt yn ddiogel o’r carchar, a chynnig triniaeth iechyd meddwl iddynt os oes angen ochr yn ochr â gofynion eraill, er mwyn iddynt allu talu iawn am eu troseddau.

“Gall gorchmynion cymunedol fod yr un mor gadarn â dedfryd fer yn y carchar, ac mae cyfradd aildroseddu lawer is iddynt. Rydym yn credu bod potensial mawr i’r Gofyniad Triniaeth, sydd heb eto ei wireddu, fel ffordd o arallgyfeirio o garcharu. Rydym yn gobeithio y bydd yr adolygiad arfaethedig o iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol gan yr Arglwydd Bradley yn clirio’r ffordd tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau arallgyfeirio o garchardai a thuag at ddewisiadau mwy effeithiol yn y gymuned.”

Roedd sylwadau Greatley yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai ym mis Chwefror, oedd yn honni bod “miloedd o bobl gyda salwch meddyliol yn cael eu lluchio’n rheolaidd i mewn ac allan o’r system carchardai”.

Yn y cyfamser, ym mis Mawrth fe heriodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad, “ddoethineb polisi dedfrydu sy’n golygu bod llawer o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu hanfon i garchar er mai triniaeth iechyd meddwl y tu allan sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd.”

I gael gwybod mwy am yr adroddiad, ewch i wefan y Sainsbury Centre yn: http://www.scmh.org.uk/index.aspx#