Hutt yn pwysleisio’r angen am gynhwysiad addysgol yng nghynhadledd wanwyn Hafal

Bu Gweinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau’r Cynulliad, Jane Hutt AC, yn siarad am yr angen i “bawb gydag afiechyd meddwl difrifol gael mynediad i’r un pethau sydd gan bawb arall”.

Yn ystod araith eang iawn ei chwmpas yng nghynhadledd wanwyn Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol (AMD) a’u gofalwyr, siaradodd Ms Hutt hefyd am ei dymuniad i weld plant Cymru yn cael eu galluogi, yn ddeallusol ac yn emosiynol, i ddatblygu “gwydnwch” fydd yn eu helpu i ymdopi â phob straen sy’n rhan o fywyd modern.

Roedd cynhadledd Hafal, a alwyd yn “Gallwn Wneud Hyn!” yn dod â defnyddwyr gwasanaethau, gwneuthurwyr polisi, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl at ei gilydd i archwilio ffyrdd o gydweithio er mwyn sicrhau y gall pobl gydag AMD gael mynediad cyfartal i’r un cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael i weddill y gymdeithas.

Wrth ddod â’r digwyddiad i ben, amlinellodd Ms Hutt sut y gellir cyflawni hyn yng nghyd-destun polisi’r Cynulliad.

Dechreuodd ei haraith drwy ganmol “yr hyn oedd yn amlwg wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus” a nododd sut y gallai hi a’i chydweithwyr yn y Senedd (gan gynnwys Edwina Hart, Gwenda Thomas a’r Dr Brian Gibbons) ddysgu o’r nifer o syniadau adeiladol a godwyd yn y gynhadledd.

Aeth y Gweinidog ati i gyfeirio at “Tegwch, Grymuso, Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd”, sef strategaeth iechyd meddwl y Cynulliad ar gyfer oedolion o oed gweithio a gyhoeddwyd pan oedd Ms Hutt yn Weinidog Iechyd yn 2001, gan gydnabod mai’r “holl dermau hynny yw’r hyn rydym ni’n siarad amdano heddiw”.

Yn ystod ei haraith, aeth y Gweinidog ati i:

• Siarad am yr angen am “weithio cysylltiol”, nid yn unig o fewn y Llywodraeth ond hefyd ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol ac ymysg cyflogwyr , gan ddweud bod “..rhaid cael partneriaeth, bod rhaid cael cydweithio, a bod rhaid cael nawdd” er mwyn i anghenion addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gael eu bodloni.

• Nodi bod Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio adeiladu system addysg sy’n seiliedig ar hawl fydd yn canolbwyntio nid yn unig ar y cwricwlwm, ond hefyd ar iechyd emosiynol a “thrwy wneud hyn bydd yn lleihau’r tebygolrwydd o unrhyw broblemau iechyd meddwl yn y dyfodol”.

• Amlinellu “menter allweddol” gan y Cynulliad, sef cwnsela annibynnol ar gyfer pob disgybl mewn ysgolion, sy’n un o’r argymhellion a ddaeth o Archwiliad Clywch.

• Pwysleisio pa mor bwysig yw hi i ddysgwyr gydag afiechyd meddwl fod yn ymwybodol o’u hawliau sylfaenol, gan y bydd “sicrhau bod ein system addysg yn gynhwysol” yn helpu “yr aelodau mwyaf bregus, eithriedig o gymdeithas.”

• Cyfaddef bod “angen adfywio”, er bod Llywodraeth y Cynulliad ar eu ffordd tuag at weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol newydd.

• Siarad am ei diddordeb mewn rhaglen ddysgu claf arbenigol, gan ddweud: “I mi, yr hyn mae’n rhaid i ni ei sicrhau yn y cam nesaf o adfywio, yn ogystal â gweithredu’r Fframwaith (Gwasanaeth Cenedlaethol), yw bod yna rwydweithio, cydweithio, a bod gwasanaethau adsefydlu arbenigol sy’n delio ag anghenion addysg a dysgu gydol oes pobl gydag afiechyd meddwl.”

Wrth ymateb i araith y Gweinidog, dywedodd Prif Weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones iddi fod yn “werthfawr iawn”. Dywedodd ei bod yn cynnig anogaeth i Hafal a’i agenda a’i bod yn dangos tystiolaeth bod “Hafal yn gwthio dôr sydd eisoes ar agor.”

Rhoddodd Mr walden-Jones addewid i fynychwyr y gynhadledd y byddai adroddiad llawn yn cael ei gynhyrchu am y diwrnod o fewn deuddeg wythnos. Siaradodd hefyd am ymgyrch gyfredol Hafal, sydd hefyd wedi’i galw’n “Gallwn Wneud Hyn!”, fydd yn cynnig hyfforddiant i grŵp cleientiaid yr elusen ac yn cynnig sgiliau TG iddynt.