Mae llys wedi clywed sut y bu i ddyn gydag anhwylder deubegwn geisio cael cymorth gan nifer o sefydliadau cyn iddo gymryd bywyd ei gymydog yn 2008.
Mewn achos llys ym Merthyr yr wythnos ddiwethaf, cyfaddefodd Granville Jones i achos o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig ac mae nawr yn cael ei gadw dan amodau’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Yn ystod yr achos, dywedodd y Barnwr John Curran: “Mae angen adolygiad er mwyn sicrhau nad yw’r math yma o drasedi yn digwydd eto.”
“Dylai’r awdurdod iechyd gynnal archwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at fethu ag adnabod ymddygiad ac anawsterau’r diffynydd cyn i’r drasedi yma ddigwydd.
“Fe ellid, ac fe ddylid fod wedi osgoi’r drasedi.”
Y mis diwethaf, yn Adolygiad Llywodraeth y Cynulliad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Diogel, fe osodwyd amcanion allweddol ar gyfer gwella gwasanaethau yng Nghymru yn dilyn dau achos o lofruddiaeth yn 2003. Un o’r amcanion strategol yn yr Adolygiad yw “sicrhau bod mecanweithiau ymateb cyflym ac effeithiol ar gael o fewn y ddarpariaeth gwasanaethau lleol er mwyn helpu atal a lleihau argyfyngau a bod y mecanweithiau hyn yn seiliedig ar gydweithio agosach rhwng asiantaethau iechyd meddwl, y gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.”
Am ragor o wybodaeth am y stori hon, ewch i:
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8098030.stm
I ddarlen Adolygiad Llywodraeth y Cynulliad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Diogel, cliciwch yma.