Hafal yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig ar y GCD iechyd meddwl arfaethedig

Bu Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr, yn rhoi tystiolaeth ddoe i’r Pwyllgor Materion Cymreig ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) Iechyd Meddwl arfaethedig i Gymru.

Bu’r Dirprwy Brif Weithredwr Alun Thomas ac aelod staff a chyn ddefnyddiwr o’r gwasanaeth Lee McCabe yn siarad yn helaeth gyda grŵp o ASau yn Ystafell Bwyllgor 16 yn Nhŷ’r Cyffredin.

Er mwyn gweld fideo o’r cofnodion, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.parliamentlive.tv/Main/Player.aspx?meetingId=4563

Am wybodaeth gefndirol ar y GCD, ewch i’r rhifyn diweddaraf o gyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru: http://www.mentalhealthwales.net/mhwcymraeg/journal.php