Hafal yn ymgyrchu yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cafodd ymwelwyr i stondin Hafal yn yr Eisteddfod yr wythnos hon wybod am gyflwr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru mewn ffordd hwyliog ac addysgiadol, diolch i gymeriad y stori dylwyth teg enwog, Sinderela, oedd wrth law gyda’i cherbyd i gyfarch yr ymwelwyr.

Thema’r stondin eleni oedd “Peidiwch a’n brwsio dan y carped!” a chafodd cannoedd o daflenni gyda’r neges hon eu dosbarthu drwy gydol yr wythnos. Roedd y daflen yn esbonio sut mae’r sector iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau i fod yn Sinderela o wasanaeth – yn gweithio’n galed ond yn cael ei esgeuluso; yn dlawd a’i ffortiwn yn cael ei guddio oddi wrtho; yn cael ei guddio o’r golwg a byth yn cael mynd i’r ddawns!

Ddydd Mercher, cynhaliodd Aelodau Hafal rali ar y stondin, a chafwyd araith gan un o Ymddiriedolwyr Hafal, Ceinwen Rowlands. Yn ei haraith, amlinellodd Ceinwen yr hyn y gall pobl ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cael eu cynnal a’u gwella.

Dywedodd: “Gan fod cyfnodau anodd o’n blaenau, mae nawr yn adeg da i ni i gyd ofyn i’n hunain beth allwn ni ei wneud i geisio sicrhau nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cael eu gwthio’n annheg i un ochr yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

“Felly beth mae angen i Hafal ei wneud? A beth all ein haelodau ei wneud i helpu pobl gydag afiechyd meddwl difrifol?

“Wel, bydd Hafal yn parhau i gyflwyno ein hachos yn gadarn ac yn deg i Lywodraeth y Cynulliad. Byddwn hefyd yn cyflwyno’r achos o blaid ariannu teg i’r ASau a’r ACau, a byddwn yn parhau i ymgyrchu dros wasanaethau gwell i Gymru, fel y buom yn ei wneud ers blynyddoedd.

“Yr hyn rydym yn ei ofyn i’n Haelodau yw eu bod yn cadw llygaid ar eu AS a’u AC lleol ac yn eu herio’n gadarn, ond yn gwrtais, i weld a ydynt yn credu bod y gwasanaethau yn eu hardal dan fygythiad.”

Yn dilyn y rali, cafodd aelodau Hafal eu hannog i ymweld, fel unigolion neu mewn parau, â’r bobl allweddol sy’n bwysig i Hafal a’i ymgyrchu – y pleidiau gwleidyddol, yn awdurdodau lleol ac eraill oedd yn bresennol yn yr Eisteddfod.

Am ragor o wybodaeth am Hafal, ewch i: www.hafal.org