Mae’r Byrddau Iechyd Lleol (BILl) newydd yng Nghymru wedi dod yn gwbl weithredol heddiw.
Mae’r saith BILl, a sefydlwyd ar ffurf cysgod ym mis Mehefin, nawr yn mynd i ymgymryd yn swyddogol â swyddogaethau’r 22 Bwrdd Iechyd Lleol a’r saith Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru gynt.
Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC fod y Byrddau newydd yn dynodi “trothwy gwawr newydd”.
Mewn cyfweliad yn y Western Mail heddiw, dywedodd y Gweinidog: “Dyma ad-drefnu anferth ac rydym wedi derbyn cefnogaeth sylweddol oddi wrth y gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth yn cydnabod y bu yna ormod o fudiadau; nid oeddynt yn hoffi’r farchnad fewnol – a fydd yn diflannu’n llwyr – ac maent yn teimlo y byddant yn medru symleiddio’r gwasanaethau.
“Yn yr amseroedd anodd yma, mae unrhyw beth y gallwn wneud i symleiddio, ond na sy’n effeithio ar wasanaethau rheng flaen, yn newyddion da.”
O safbwynt gwasanaethau iechyd meddwl, mae yna bryderon wedi eu mynegi ynghylch y statws y byddant yn ei dderbyn o fewn y BILl newydd.
Roedd adroddiad a gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan: “Mae’n bryderus fod cyfrifoldeb am wasanaethau iechyd meddwl yn y Byrddau Iechyd Lleol newydd yn cael ei roi i’r Is Gadeiryddion a Chyfarwyddwyr sydd yn gyfrifol hefyd am wasanaethau iechyd meddwl cynradd a chymunedol.”
Ychwanegodd yr adroddiad: “Y perygl yw…y bydd gwasanaethau cynradd a chymunedol yn hawlio’r mwyafrif o’u sylw a bydd iechyd meddwl yn parhau yn wasanaeth Sinderela.”
Roedd yr adroddiad yn argymell fod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadw rôl yr Is Gadeirydd yn y BILl newydd a hynny fel rhan o adolygiad a fyddai’n gorfod cynnig tystiolaeth bod y gwasanaethau iechyd meddwl yn derbyn y flaenoriaeth y maent yn eu haeddu gan y BILl newydd.
Er mwyn cael copi PDF o’r Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol, ewch os gwelwch yn dda i:
http://www.cynulliadcymru.org/cr-ld7697
Y Gwasanaethau Byrddau Iechyd Lleol newydd yw: BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, BILl Aneurin Bevan, BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr, BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, BILl Cwm Taf, BILl Hywel Dda a BILl Powys.