Hafal yn lansio y Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Bydd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn lansio gwasanaeth newydd Hafal, sef y Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol, yn swyddogol yn y Senedd ar ddydd Mercher, 14eg o Hydref.

Bydd y gwasanaeth, sydd yn cael ei ariannu drwy swm cyfun o £1.2 miliwn oddi wrth Sefydliad Lloyds TSB  (y Rhaglen i Gyn-garcharorion) a’r Loteri’r Fawr (Rhaglen Iechyd Meddwl), ar gael drwy Gymru ac yn cael ei anelu at unrhyw un ag afiechyd meddwl difrifol sydd wedisydd wedi ymwneud (neu mewn perygl  o ymwneud) â’r system cyfiawnder troseddol. Roedd grant gan Comic Relief wedi ariannu Hafal i wneud gwaith datblygu ar gyfiawnder troseddol ac roedd hyn wedi arwain at y gwasanaeth newydd hwn.

Bydd y Gwasanaeth Cyswllt yn darparu:

·         Cyngor a gwybodaeth – yn y meysydd sydd eu hangen er mwyn annog adferiad o afiechyd meddwl difrifol, gan gynnwys: llety, lles corfforol, gwaith a galwedigaeth, hyfforddiant ac addysg, cyllid ac arian, materion cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol, cyfrifoldebau magu plant a gofalu, meddyginiaeth a dulliau eraill o driniaethau ar gyfer afiechyd meddwl difrifol.

·         Eiriolaeth anffurfiol tymor byr e.e. cynorthwyo gyda’r galwadau ffôn cychwynnol, cynorthwyo gyda chyflwyniadau i asiantaethau cefnogi ac annog cleientiaid i gadw at eu hapwyntiadau cychwynnol.

·         Cyfeirio at gymorth ychwanegol – gall Swyddogion Cyswllt Hafal gyfeirio unigolion at asiantaethau cefnogi priodol.

·         Gwasanaeth cefnogi ac adsefydlu arbenigol i garcharorion benywaidd o Gymru  – bydd Swyddogion Cyswllt Hafal yn cwrdd â menywod o Gymru sydd yn y carchar; eu cynorthwyo i gynllunio eu hanghenion ar ôl cael eu rhyddhau a chynorthwyo i sicrhau fod gwasanaethau priodol mewn lle. Bydd y Swyddogion Cyswllt wedyn yn darparu cymorth iddynt am hyd at chwe wythnos ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

·         Cefnogaeth tymor byr – Bydd Swyddogion Cyswllt Hafal yn cefnogi’r gweithwyr achos priodol ac yn darparu cefnogaeth bersonol i gleientiaid gan gynnwys: gwrando, cyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnodau pontio, e.e. o’r carchar yn nôl i mewn i’r gymuned.

Cyn lansiad y gwasanaeth, sydd yn cael ei gynnal i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dywedodd Penny Cram, Prif Swyddog Cyfiawnder Troseddol Hafal: “Mae Hafal wedi cyflogi tîm o chwe Swyddog Cyswllt Cyfiawnder Troseddol i ddatblygu’r gwasanaeth. Bydd pedwar Swyddog ledled Cymru yn darparu cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i droseddwyr yn y gymuned a’r rhai hynny sydd efallai mewn perygl o droseddu.

“Mae yna ddwy swydd arbenigol hefyd o fewn y tîm. Gan fod menywod Cymreig yn cael eu dal fel arfer yn y ddalfa yng Ngharchar Ei Mawrhydi yn Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw a Charchar Ei Mawrhydi yn Styal yn Swydd Gaer, bydd dau Swyddog Gwasanaeth Cyswllt yn gweithio mewn partneriaeth â’r asiantaethau statudol priodol i ddarparu gwasanaeth cefnogi ac adsefydlu mwy arbenigol i fenywod o’r carchardai yma sydd yn dychwelyd i Gymru ar ôl cael eu rhyddhau.

“Ar y cyfan, nod y Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol yw cynorthwyo pobl i ymglymu â’r gwasanaethau iechyd meddwl, i froceru gwasanaethau ar gyfer pobl a chynorthwyo i gadw pobl wedi eu hymglymu. Nid yw’r Gwasanaeth Cyswllt yn cymryd lle’r ddarpariaeth statudol ac ni fydd y Swyddogion Cyswllt yn dwyn cyfrifoldeb oddi wrth y gweithwyr achos priodol yn yr asiantaethau cyfiawnder troseddol na’r gwasanaethau iechyd meddwl; ond byddant yn darparu pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol (yn ogystal â chleientiaid eu hunain) i dderbyn cyngor a chyfarwyddyd arbenigol.”

Bydd ymatebion y Gwasanaeth Cyswllt yn dibynnu ar natur anghenion y cleientiaid unigol. Bydd y lefelau o gymorth yn amrywio o:

·         cyngor dros y ffôn a fydd ond yn cymryd rhai munudau;

·         danfon cyngor yn y post;

·         cyfarfod gyda’r Swyddog Cyswllt a fydd yn arwain at gymorth am hyd at chwe wythnos.

Ym mhob un achos, bydd cleientiaid yn cael cynnig cyngor personol manwl a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y meysydd penodol o angen ynghyd â chyngor mwy cyffredinol.

Bydd lansiad y Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol yn cael ei gynnal yng Ngaleri’r Oriel, y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA ar ddydd Mercher, 14eg o Hydref.

Mae Hafal wedi cyhoeddi canllaw sydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn y gall y bobl hynny ag afiechyd meddwl difrifol ei wneud os canfyddant eu hunain yn y carchar. Er mwyn darllen y Arweiniad Goroesi Cyfiawnder Troseddol gan Hafal, ewch os gwelwch yn dda i:http://www.hafal.org/hafal/pdf/A%20Criminal%20Justice%20Survival%20Guide_pdf

Mae Hafal hefyd wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol sydd yn dod i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Trsoeddol, Lleihau Risg Cyflawni Adferiad. Er mwyn darllen y canllaw, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/pdf/ReducingRisk/Reducing_Risk.pdf