Y “sgwrs” gyntaf i randdeiliaid ar y Mesur Iechyd Meddwl wedi’i chynnal

Mae’r cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i drafod yr opsiynau deddfwriaethol a fydd yn deillio o Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) Iechyd Meddwl yr Aelod Cynulliad Jonathan Morgan wedi ei gynnal.

Trefnwyd y cyfarfod, a gynhaliwyd ym Margam, ger Port Talbot, ar Hydref 13eg, gan Reolwr Perthynas Iechyd Meddwl Llywodraeth Cynulliad Cymru, Claire Fife, a mynychodd ystod eang o bobl gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a chynrychiolwyr ymhlith eraill o’r sector wirfoddol, y sector statudol a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol.

Mynychodd y Rheolwr Materion Cyhoeddus, David England, o’r elusen iechyd meddwl Gymreig, Hafal, y digwyddiad. Dywedodd ef: “Trafodwyd y broses o symud y GCD drwy’r Cynulliad a’r Senedd i ddechrau. Dilynwyd hyn gan gyfres o weithdai a gynhaliwyd i drafod y pum maes lle bo’r cymhwysedd a’r Mesur yn cael eu trefnu.”

Y pum maes a drafodwyd yn y gweithdai oedd:

• Ymestyn Haen 1 o wasanaethau iechyd meddwl.
• Mynediad gwell at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i gyn ddefnyddwyr.
• Cynlluniau gofal a thriniaeth ar gyfer holl ddefnyddwyr y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
• Ymestyn gwasanaethau Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol i adrannau tymor byr.
• Eiriolaeth annibynnol ar gyfer yr holl gleifion ysbyty. Ychwanegodd David: “Mae’r GCD yn mynd drwy’r Pwyllgor Materion Cymreig ar hyn o bryd a’r gobaith a’r disgwyliad yw y bydd yn derbyn cymhwysedd yn hwyrach eleni neu’n gynnar y flwyddyn nesaf.” Bydd cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal yn Aberystwyth ar Hydref 19eg a Wrecsam ar Hydref 23ain.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Thîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ebostiwch Claire Fife: Claire.Fife@wales.gsi.gov.uk