Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi derbyn pwerau i gyflwyno cyfreithiau newydd i gefnogi gofalwyr ar ôl i Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas AC dderbyn Cydsyniad Brenhinol yr wythnos hon.
Bydd y GCD, a gyflwynwyd yn Rhagfyr 2008, yn caniatáu i’r Llywodraeth i wneud cyfreithiau Cymreig penodol (a adwaenir fel Mesurau) a fydd wedi eu dylunio i gynorthwyo bywydau gofalwyr yng Nghymru.
Bydd y cyntaf o’r Mesurau yma, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach eleni, yn canolbwyntio ar gyflwyno gofynion newydd ar y GIG, yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, i gynhyrchu strategaeth gwybodaeth i ofalwyr a strategaeth ar y cyd i ymgysylltu â gofalwyr. Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn ceisio sicrhau nad yw gofalwyr ifanc yn ysgwyddo baich amhriodol.
Dywedodd Gwenda Thomas: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi sicrhau cydsyniad Brenhinol i’r GCD i Ofalwyr gan y bydd hyn yn ein caniatáu i fynd i’r afael â’r diffygion presennol yn narpariaeth y gwasanaethau i ofalwyr yng Nghymru. Mae caniatáu’r GCD yma yn ein galluogi ni i fwrw ymlaen gydag ein hymrwymiad Cymru’n Un ar ofalwyr.
“Bydd Llywodraeth y Cynulliad nawr yn medru symud ymlaen i gyflwyno ystod o Fesurau a fydd wedi eu dylunio’n benodol i gefnogi anghenion gofalwyr ac i gynorthwyo i gynnal eu hiechyd a lles a fydd yn ei dro yn elwa bywydau’r bobl hynny y maent yn gofalu amdanynt.”