Hart: “Cryn ffordd i fynd eto cyn bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cyrraedd safonau derbyniol cyson”

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC wedi croesawu’r “Ymchwiliad i mewn i Wasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol” a gynhaliwyd gan Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Medi, yn gwneud 28 argymhelliad cynhwysfawr sydd oll wedi eu derbyn yn gyhoeddus gan y Gweinidog mewn cyfarfod llawn i drafod yr ymchwiliad a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Mercher.

Yn ystod y ddadl, dywedodd y Gweinidog: “Rwyf yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac rwy’n cytuno gyda’r casgliad cyffredinol – er bod yna welliannau wedi eu gwneud i wasanaethau iechyd meddwl dros y blynyddoedd diwethaf, mae cryn ffordd i fynd eto cyn bod gwasanaethau yn cyrraedd safonau derbyniol cyson ar draws Cymru.”

Yn ystod y ddadl, roedd nifer o ACau gan gynnwys Jonathan Morgan, sydd â’i Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol iechyd meddwl arfaethedig yn destun dadl yn y Senedd ddydd Mercher nesaf, wedi siarad am gymeradwyaeth y Pwyllgor o’r buddiannau sy’n deillio o fodel adferiad holistaidd.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Darren Millar: “Mae afiechyd meddwl, yn fwy nag unrhyw gyflwr arall, angen cael ei drin mewn dull holistaidd sydd yn cwmpasu mwy o lawer na thriniaeth feddygol. Y sialens i wasanaethau iechyd meddwl yw ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth mewn modd sydd yn diwallu’r anghenion unigol lluosog ac yn grymuso defnyddwyr gwasanaeth i gymryd mesur o reolaeth dros eu bywydau eu hunain. Fodd bynnag, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn hanesyddol wedi eu harwain gan y gwasanaeth ac wedi eu ffocysu’n feddygol ac nid ydynt bob tro wedi rhoi’r prif sylw i ddymuniadau’r defnyddiwr.

“Mae’r model adferiad yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl a lles mewn modd mwy personol ac sy’n grymuso, ac roedd ei botensial i gynorthwyo i ddiwallu anghenion y rhai hynny â materion iechyd meddwl wedi creu argraff ar y pwyllgor.”

Er mwyn darllen cofnod o’r ddadl, ewch os gwelwch yn dda i:

http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=155610&ds=12/2009#5

Er mwyn darllen adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i mewn i wasanaethau iechyd meddwl cymunedol yng Nghymru, ewch os gwelwch yn dda i:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-hwlg-home/business-hwlg-inquiries/nafw_hwlg_3_-inquiry_mental_health.htm