Cleifion i weld cofnodion meddygol a threfnu apwyntiadau Meddyg Teulu ar-lein

Mae’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer gwefan newydd a fydd yn caniatáu i gleifion i wirio eu cofnodion meddygol ar-lein.

Bydd ‘Fy Iechyd Ar-lein’, gwefan ddwyieithog GIG Cymru, hefyd yn caniatáu i gleifion yng Nghymru i archebu presgripsiynau amlroddadwy a threfnu apwyntiadau â’u Meddyg Teulu. Bydd yn cysylltu â’r wefan Galw Iechyd Cymru, gwefan bresennol GIG ac yn cynnwys cyngor a gwybodaeth i gynorthwyo cleifion i reoli eu cyflyrau iechyd.

Wrth gyhoeddi’r wefan newydd, dywedodd Edwina Hart: “Mae’r galw am wasanaethau Meddyg Teulu ar-lein yn cynyddu ac rydym yn cydnabod ei bod yn hanfodol i ddarparu gwybodaeth addas ar-lein os ydym am alluogi pobl i newid eu dull o fyw a gwella eu hiechyd.

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau iechyd i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Bydd Fy Iechyd Ar-lein yn arbed teithiau maith i bractisau Meddygon Teulu yn arbennig.
“Bydd y wefan hefyd yn grymuso pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain drwy gwblhau dyddiadur iechyd a fydd yn bosib ei rannu â’u Meddyg Teulu.”

Bydd y gwaith o ddatblygu union fanylion a gofynion y wefan nawr yn dechrau – byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn cael ei lansio.