Efallai y bydd cynllun gweithredu cenedlaethol i bobl ifanc yn cael ei oedi

Efallai y bydd cynllun gweithredu cenedlaethol i gynorthwyo i fynd i’r afael â materion “brys” sy’n ymwneud ag ansawdd gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl yn cael ei oedi.

Ym mis Tachwedd, roedd adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn argymell yn gryf y dylid datblygu cynllun o fewn chwe mis yn amlinellu sut a phryd y bydd y gwasanaethau yn gwella.

Fodd bynnag, yng nghyfarfod Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd ddydd Mercher, dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Paul Williams wrth Gadeirydd y Pwyllgor, Jonathan Morgan AC, nad oedd y dasg o lunio cynllun wedi ei gosod eto a bydd y cynllun “efallai yn cymryd ychydig yn hirach” na mis Mai. Pan ofynnwyd iddo gan Mr Morgan a fyddai’r cynllun yn cael ei oedi’n sylweddol, dywedodd Mr Morgan ei “bod yn anodd dweud”.

Dywedodd Mr Williams, a ddisgrifiodd yr adroddiad hwn a gyhoeddwyd ar y cyd fel “rhybudd”: “Rwy’n dychmygu y byddwn wedi profi cynnydd sylweddol (erbyn mis Mai) ond gan ein bod ond newydd orffen ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd, bydd angen i mi gael barn fy nghydweithwyr sy’n Brif Weithredwyr dros yr wythnosau nesaf. Rwy’n deall natur brys y cynllun yma ac rydym wedi ymrwymo i wella’r gwasanaethau hyn hyd yn oed ymhellach.”

Er mwyn darllen yr adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi ar y cyd, “Gwasanaethau i blant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl”, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.wao.gov.uk/cymraeg/reportsandpublications/172.asp

Cyfeiriad gwefan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-other-committees/bus-committees-third-ac-home.htm