Mae’r rhifyn newydd o Gyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru nawr ar gael. Mae cyfnodolyn y tymor hwn yn cynnwys erthyglau ar amrywiaeth o faterion iechyd meddwl pwysig gan gynnwys:
• Dadansoddiad o’r opsiynau sydd ar gael tuag at greu gwasanaeth iechyd meddwl yng Nghymru sydd yn fwy modern ac wedi’i ganoli ar y person.
• Sylw ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar safonau gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
• Craffu’n drylwyr ar sut y mae cynllunio gofal, “sef conglfaen polisi iechyd meddwl y Llywodraeth”, yn ymwneud â’r broses ddemocrataidd.
• Cyfweliad gyda Lee McCabe, y gŵr a ysbrydolodd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) iechyd meddwl Jonathan Morgan, Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd.
• Er mwyn lawrlwytho’r cyfnodolyn, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.mentalhealthwales.net/mhwcymraeg/journal.php