Adroddiad yn galw am fwy o fuddsoddiad i hyrwyddo iechyd meddwl.. tra bo cynlluniau i ddisodli hen wallgofdy â datblygiad newydd wedi eu rhoi o’r neilltu.

Adroddiad yn galw am fwy o fuddsoddiad i hyrwyddo iechyd meddwl.. tra bo cynlluniau i ddisodli hen wallgofdy â datblygiad newydd wedi eu rhoi o’r neilltu.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan wedi datgan y byddai mwy o fuddsoddiad i hyrwyddo iechyd meddwl yn arwain at fanteision economaidd sylweddol i Gymru.

Mae’r adroddiad, “Hybu Iechyd Meddwl ac Atal Salwch Meddwl: yr achos economaidd dros fuddsoddi yng Nghymru”, yn amcangyfrif mai’r gost gyffredinol o broblemau iechyd meddwl yng Nghymru – gan gynnwys y gost o wasanaethau iechyd a chymdeithasol, colledion allbynnau yn yr economi Gymreig a ‘chostau dynol’- oedd £7.2 biliwn ym 2007/2008.

Er mwyn lleihau’r gost hon, mae’r astudiaeth yn argymell ymyrraeth gynnar, cefnogi dysgu gydol oes, hyrwyddo ffordd o fyw’n iach a gwella bywydau gwaith.

Wrth wneud sylw ar yr adroddiad, dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal: “Mae ein Haelodau – pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd – yn ymwybodol iawn o’r gost ddynol ac economaidd o broblemau iechyd meddwl ac mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o awgrymiadau synhwyrol i hyrwyddo lles meddwl mewn meysydd megis cyflogaeth ac addysg. Fodd bynnag, fel blaenoriaeth, mae angen i ni gywiro gwasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd.”

Er mwyn amlygu ei bwynt, cyfeiriodd Mr Walden-Jones at Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i mewn i Wasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol (Medi 2009) a oedd wedi canfod diffygion difrifol mewn gwasanaethau cymunedol. Dywedodd ef: “Roedd yr adroddiad wedi canfod fod ‘tipyn o ffordd i fynd cyn bod gwasanaethau’n cyrraedd safon dderbyniol sy’n gyson ledled Cymru‘. Roedd hefyd yn datgan, ‘er gwaethaf y gefnogaeth eang i’w amcanion a’i egwyddorion, nid yw’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar Iechyd Meddwl wedi’i weithredu’n gywir ac mai cyfyngedig fu ei lwyddiannau.’

Ychwanegodd Mr Walden-Jones: “Tra ein bod yn cefnogi hyrwyddo lles meddwl, dylid cydnabod hefyd nad oes yna unrhyw dystiolaeth bod modd trin afiechydon meddwl difrifol megis sgitsoffrenia drwy fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol cyffredinol mewn cymdeithas. Y ffordd orau o sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol yw drwy ddarparu triniaeth amserol a chynllun gofal cynhwysfawr sydd yn ymdrin ag holl agweddau bywyd.

“Dylai cyllid ar gyfer cyflogaeth ac addysg adlewyrchu’r gost o hyrwyddo lles meddwl yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, os oes yna gyllid newydd ar gael at bwrpas iechyd meddwl, rhaid mai’r flaenoriaeth yw gwella’r gwasanaethau ar gyfer y bobl fwyaf archolladwy yn ein cymdeithas – y rhai hynny sydd yn profi afiechydon meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Mae angen i ni fod yn realistig ynghylch hyn: ni ddylai hyrwyddo lles meddwl ddwyn sylw o’r blaenoriaethau allweddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl presennol.”

Cyhoeddwyd adroddiad Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ychydig wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod y cynlluniau i ddisodli un o ysbytai iechyd meddwl hynaf Cymru, Ysbyty’r Eglwys Newydd, gyda datblygiad £80m newydd wedi eu rhoi o’r neilltu
Wrth wneud sylw ar y cyhoeddiad hwn, dywedodd Mr Walden-Jones: “Mae ein Haelodau yn bryderus iawn bod y cynlluniau i ddisodli ysbyty’r Eglwys Newydd, sydd yn rhan o strategaeth 10 mlwydd oed, wedi cael eu rhoi o’r neilltu. Dylai’r GIG wedi sicrhau bod y cynlluniau yn gywir o’r cychwyn; mae’n annerbyniol fod yn rhaid i’r holl broses i ddechrau o’r dechrau. Nid yw’n syndod fod nifer o gleifion a’u teuluoedd yng Nghaerdydd yn credu mai cyllid mewn gwirionedd sydd wrth wraidd yr oedi hwn.

“Yn anffodus ar gyfer ein Haelodau, mae hyn yn golygu y bydd y bobl hynny ag afiechyd meddwl difrifol ym mhrif ddinas Cymru, yn mynychu hyd y rhagwelir ysbyty sydd wedi dyddio ac wedi’i adeiladu dros ganrif yn ôl. Sefydlwyd Ysbyty’r Eglwys Newydd ym 1904 ac mae’n un o lond llaw o ysbytai meddwl a adeiladwyd dros ganrif yn ôl ac sydd dal yn cael ei ddefnyddio heddiw. Nid yw’n darparu’r amgylchedd therapiwtig sydd mor bwysig o safbwynt gwella o afiechyd meddwl difrifol: i’r gwrthwyneb, mae’r ysbyty yn atgof afler a thorcalonnus o ba mor bell y mae’n rhaid i ni fynd cyn bod Cymru yn medru datgan fod ganddi wasanaeth iechyd meddwl sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae ein Haelodau nawr yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ymgynghori gyda chleifion a mudiadau cleifion ar frys fel y gallwn ddatgan ein barn ar gynlluniau’r dyfodol ar gyfer y gwasanaethau yr ydym yn eu defnyddio.”

Er mwyn darllen “Hybu Iechyd Meddwl ac Atal Salwch Meddwl: yr achos economaidd dros fuddsoddi yng Nghymru”, ewch i: www.publicmentalhealth.org